{"id":8114,"date":"2021-02-03T11:16:38","date_gmt":"2021-02-03T11:16:38","guid":{"rendered":"http:\/\/oeof.bsb\/?p=8114"},"modified":"2021-02-03T11:23:32","modified_gmt":"2021-02-03T11:23:32","slug":"meddwl-am-lais-cynyddol-i-ieuenctid-yn-eich-sefydliad-dyma-ein-stori-ni","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/02\/03\/meddwl-am-lais-cynyddol-i-ieuenctid-yn-eich-sefydliad-dyma-ein-stori-ni\/","title":{"rendered":"Meddwl am lais cynyddol i ieuenctid yn eich sefydliad? Dyma ein stori ni."},"content":{"rendered":"
Mae eco-bryder cynyddol yn arwydd bod pobl ifanc yn teimlo pryder gwirioneddol am fethu mynd i’r afael \u00e2 heriau amgylcheddol. Yn dilyn y streic ysgolion dros yr hinsawdd mae llawer o bobl ifanc yn gofyn am gael dysgu mwy am eiriolaeth ac ymgysylltu gwleidyddol.<\/strong><\/h6>\n
Mae gan Ogledd Iwerddon ddau brosiect Our Bright Future, un gyda Phartneriaeth Belfast Hills<\/a> a\u2019r llall gydag Ulster Wildlife<\/a>. Maent fel rheol yn cynnwys elfen fawr o sgiliau cadwraeth ymarferol. Roedd y ddau wedi trefnu digwyddiadau cyfranogiad llais ieuenctid llwyddiannus ac roeddem eisiau adeiladu ymhellach ar y gwaith hwn drwy gymryd rhan mewn prosiect penodol i wrando ar leisiau pobl ifanc a’u hyrwyddo.<\/h6>\n
Yn 2020 cafodd Ulster Wildlife y dasg o ffurfio a rhoi cefnogaeth i gr\u0175p o bobl ifanc i ddatblygu Tri Chais Our Bright Future yng Ngogledd Iwerddon. Y rhain yw:<\/h6>\n
1 – Treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano<\/a><\/h6>\n
2 \u2013 Cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol<\/a><\/h6>\n
3 \u2013 Mwy o lais i bobl ifanc mewn cymdeithas<\/a><\/h6>\n
Fel llawer o brosiectau yn 2020, cafodd ein cynlluniau cychwynnol eu difetha’n gyflym. Gan gofio y byddai argyfwng Covid-19 yn effeithio’n negyddol iawn ar bobl ifanc, dal ati oedd ein hanes a recriwtiwyd gr\u0175p angerddol o bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Iwerddon.<\/h6>\n
\n
“Rydw i wir wedi mwynhau bod yn rhan o Our Bright Future, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud pan nad ydw i wedi cael cyfle i wneud cymaint o wirfoddoli na chwrdd \u00e2 phobl newydd.\u00a0Mae’r ymgyrch yn teimlo’n frys ac yn berthnasol ac mae’n rhoi llawer o foddhad wrth weithio gyda phobl o’r un anian. Fel ymgyrchwyr ifanc, mae llawer ohonom ni’n teimlo’n anobeithiol weithiau am yr argyfyngau sy’n wynebu’r amgylchedd ond mae gweithio gyda’n gilydd yn ein helpu ni i greu newid mawr.” <\/em>Dakota<\/h6>\n<\/blockquote>\n
Roedd rhaid i bopeth symud ar-lein; roedd hyn yn golygu y gallai gr\u0175p amrywiol o bob rhan o’r wlad gyfarfod mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl wyneb yn wyneb. Cawsant hyfforddiant manwl gan ymgynghoriaeth leol ar strwythur y llywodraeth yng Ngogledd Iwerddon, lob\u00efo ac eiriolaeth, ysgrifennu briff, siarad gyda gwleidyddion, defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ac ati. Mae pawb yn cadw mewn cysylltiad drwy sesiynau Zoom a gr\u0175p Whatsapp bywiog. Mae’n hyfryd gweld pawb mor gefnogol i weithredoedd ei gilydd ac yn dathlu llwyddiannau ei gilydd. Maent wedi cryfhau eu rhwydweithiau mentoriaid cymheiriaid, rhwydweithiau gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn lleol ac wedi defnyddio eu dysgu eisoes yn eu sefydliadau a’u diddordebau eu hunain, gan gynnwys clybiau eco ysgolion, clybiau ffermwyr ifanc, cofnodi bywyd gwyllt, streiciau hinsawdd, gwleidyddiaeth ieuenctid a hyd yn oed busnes ffasiwn cynaliadwy.<\/h6>\n
\n
“Mae Our Bright Future wedi dysgu cymaint i mi am sut i greu newid cadarnhaol yn fy nghymuned – sgiliau a gwybodaeth y byddaf yn gallu eu datblygu mewn sawl maes wrth ymgyrchu.”<\/em> Frances<\/h6>\n<\/blockquote>\n
Mae’r gr\u0175p bellach wrthi’n cysylltu \u00e2 llunwyr polis\u00efau, gan gynnwys y canlynol: \u00a0<\/em><\/h6>\n
    \n
  • \n
    Edwin Poots, y Gweinidog Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a ymwelodd \u00e2 fferm person ifanc o Her Grassroots i weld rhywfaint o’r gwaith sy\u2019n digwydd yno ac i wrando ar bryderon pobl ifanc<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Robbie Butler, UUP MLA, a oedd \u00e2 diddordeb arbennig ym manteision iechyd meddwl dysgu yn yr awyr agored<\/h6>\n<\/li>\n
  • \n
    Peter Hall, sy’n gweithio ar Gynulliad Ieuenctid ar gyfer Gogledd Iwerddon. Roedd cyfle i\u2019r bobl ifanc roi adborth iddo ar fanylion y cynlluniau<\/h6>\n<\/li>\n<\/ul>\n
    Dim ond rhai o’r llunwyr polis\u00efau mae’r bobl ifanc wedi cyfarfod \u00e2 hwy yw\u2019r rhain ac mae\u2019r cyfarfodydd yn parhau. Mae\u2019r arweinwyr a\u2019r bobl ifanc yn elwa o rannu safbwyntiau yn ystod y cyfleoedd hyn. Ar \u00f4l derbyn hyfforddiant maent yn fwy gwybodus am y strwythurau gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ac maent yn magu mwy o hyder i fanteisio ar y cyfleoedd maent yn cael eu gwahodd fwyfwy i’w mynychu. Roedd y rhain yn cynnwys siarad mewn gweithgorau gweithredu dros yr hinsawdd, bod yn llysgennad ieuenctid ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd Ieuenctid 2020 a chwrdd \u00e2 gr\u0175p o ymchwilwyr o wahanol brifysgolion yn y DU i ystyried syniadau ar gyfer cynnig ymchwil yn gysylltiedig \u00e2 Chais 1.<\/h6>\n
    Ar gyfer Diwrnod Ystafell Ddosbarth yn yr Awyr Agored 2020, cysylltodd y gr\u0175p ag amrywiaeth o athrawon a gwleidyddion ar gyfer diwrnod cyfryngau cymdeithasol. Rydym bellach yn clywed bod lefel gynyddol o besimistiaeth yn ymwneud ag addysg wrth i effaith lawn pandemig Covid-19 ar blant, pobl ifanc ac athrawon ddod i’r amlwg. Wrth i bobl elwa o gysylltu mwy \u00e2 byd natur yn ystod y cyfyngiadau symud, mae pobl ifanc yn awyddus i sicrhau nad yw hyn yn cael ei golli yn y rhuthr i adfer y cynnydd academaidd a gollwyd. Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben, rydym yn canolbwyntio mwy ar Gais 1. Mae’r gr\u0175p yn teimlo bod hwn yn amser hollbwysig i gyflwyno neges o bositifrwydd yn y byd addysg. Rydw i’n edrych ymlaen at helpu i hwyluso’r cyfle i weithio gyda gweithiwr proffesiynol a chael profiad uniongyrchol o’r broses o greu ymgyrch cyfryngau lwyddiannus ac arddangos y dalent yn y gr\u0175p.<\/h6>\n
    Mae Ulster Wildlife bellach yn edrych ar gynlluniau i integreiddio Her Grassroots a Fforymau Ieuenctid Our Bright Future i barhau fel sail i waith ieuenctid yr elusen wrth symud ymlaen. Pobl ifanc fydd yn byw gyda’r dewisiadau mae ein cymdeithas yn eu gwneud, ac yn delio \u00e2’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd. Yn y gr\u0175p hwn, cr\u00ebwyd gofod ar gyfer trafodaeth fanwl yn pontio\u2019r cenedlaethau ac ar draws credoau gwleidyddol gydag ieuenctid trefol a gwledig. Pobl \u00e2 phrofiadau byw gwahanol yn rhoi adborth a phersbectif. Os ydym yn creu menter ieuenctid, pwy well i roi mewnbwn creadigol i’w datblygiad? Fel sefydliad, os ydym yn llunio polisi fydd yn effeithio ar y genhedlaeth nesaf, dylid cynnwys eu barn yn y broses o wneud penderfyniadau.<\/h6>\n
    \n
    “Mae mentrau fel hyn yn rhoi llais i bobl ifanc, rhaid i ni gymryd yr awenau a chael cyfle i wneud gwahaniaeth i wella ein dyfodol.”<\/em> Hanna<\/h6>\n<\/blockquote>\n
    Ar wah\u00e2n i hyrwyddo’r Tri Chais, mae manteision eraill, llai diriaethol ond yr un mor bwysig. Mae llawer o bobl ifanc yn teimlo eu bod wedi’u llethu gan heriau’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth; gall grwpiau fel hyn fod yn gyfrwng i hwyluso newid a gwarchod rhag pobl ifanc yn teimlo eu bod wedi’u llethu. Rydym eisoes wedi gweld effeithiau lluosog. Mae’r bobl ifanc wedi ychwanegu at eu sgiliau trosglwyddadwy, wedi cynyddu eu rhwydweithiau cefnogi eu hunain ac mae’r effeithiau’n ymledu. Pan maent yn dilyn yr hyfforddiant ac yn ei rannu yn eu rhwydweithiau eu hunain fel bod ymgyrchoedd yn gallu bod yn fwy effeithiol, rydych chi’n gwybod bod y dysgu wedi trawsnewid pethau. Pan fyddant yn disgrifio’r hyfforddiant fel rhan o gyfweliad ac yn sicrhau lleoliad neu’n gwneud cais am grant bychan i ddechrau dysgu yn yr awyr agored yn eu hysgol eu hunain, rydych chi\u2019n gwerthfawrogi nad dim ond yr ymgyrch sy’n elwa, ond y rhai sy’n cymryd rhan a’u cymunedau hefyd.<\/h6>\n
    \n
    “I mi’n bersonol, mae’r gr\u0175p Our Bright Future sy’n cael ei redeg gan Ulster Wildlife yn lle diogel, lle rydw i’n teimlo fy mod yn cael fy annog ac yn cyfrif wrth rannu fy marn a’m meddyliau am yr argyfwng hinsawdd a’r newidiadau mae angen i ni eu gweld ar gyfer dyfodol gwell. Mae’n rhoi gobaith a chyfle i bobl ifanc gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.” <\/em>Andra<\/h6>\n<\/blockquote>\n
    Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda\u2019r bobl ifanc yn y gr\u0175p. Mae pobl ifanc yn rhan allweddol o’r ateb i fygythiadau amgylcheddol ac ni fydd y rhai ohonom ni sydd \u00e2 llwyfan yn difaru gwneud lle iddynt arno.<\/strong><\/h6>\n
    <\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

    Mae eco-bryder cynyddol yn arwydd bod pobl ifanc yn teimlo pryder gwirioneddol am fethu mynd i’r afael \u00e2 heriau amgylcheddol. Yn dilyn y streic ysgolion dros yr hinsawdd mae llawer o bobl ifanc yn gofyn am gael dysgu mwy am eiriolaeth ac ymgysylltu gwleidyddol. Mae gan Ogledd Iwerddon ddau brosiect Our Bright Future, un gyda […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":8119,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8114"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8114"}],"version-history":[{"count":7,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8114\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8121,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8114\/revisions\/8121"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8119"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8114"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8114"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8114"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}