{"id":8148,"date":"2021-02-08T10:01:49","date_gmt":"2021-02-08T10:01:49","guid":{"rendered":"http:\/\/oeof.bsb\/?p=8148"},"modified":"2021-02-08T10:07:00","modified_gmt":"2021-02-08T10:07:00","slug":"siwrnai-prentisiaeth-jade","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/02\/08\/siwrnai-prentisiaeth-jade\/","title":{"rendered":"Siwrnai prentisiaeth Jade"},"content":{"rendered":"

\"\"Mae fy mhrentisiaeth 16 mis i gydag Ymddiriedolaeth Natur Cumbria ac YDMT wedi bod yn anhygoel. Ddwy flynedd yn \u00f4l, doeddwn i ddim yn gwybod am beth roeddwn i’n teimlo\u2019n angerddol neu eisiau ei wneud. Fe roddodd y brentisiaeth yma gyfle i mi ddysgu am fyd natur, ac amdanaf i fy hun.<\/p>\n

Rydw i wedi tyfu cymaint wedi bod yn rhedeg gweithgorau gwirfoddol, gan drefnu popeth ymlaen llaw i gyflwyno sgyrsiau diogelwch a goruchwylio tasgau’r diwrnod. Ddeuddeg mis yn \u00f4l, \u2019fyddwn i ddim wedi credu bod hynny’n bosib. Un o fy nghyflawniadau mwyaf i oedd cael fy nhocyn llif gadwyn, oherwydd fy mhenderfyniad a gwrthod cael fy nhrechu gan orbryder. Dyma un o’r pethau mwyaf rydw i wedi\u2019u dysgu, hyd yn oed pan mae pethau’n fawr, yn frawychus ac yn ymddangos yn amhosib, os ydych chi eisiau rhywbeth ddigon, gwnewch eich gorau a pheidio \u00e2 gadael i hunanamheuaeth eich rhwystro chi, ac fe fyddwch chi’n llwyddo. Rydw i bellach yn gallu mynd yn hyderus at fag mawn ac adnabod y rhan fwyaf o’r rhywogaethau planhigion o fy nghwmpas i. Pethau bach fel hyn rydw i\u2019n anghofio amdanyn nhw weithiau pan fydda\u2019 i\u2019n amau fy ngallu. Pan fydda\u2019 i’n cymryd cam yn \u00f4l, rydw i’n sylweddoli pa mor bell rydw i wedi dod. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib oni bai am fy mhrentisiaeth i. Fe fyddwn i’n dal i fod yn styc mewn swydd doeddwn i ddim eisiau, yn gweithio bob awr, heb gael fy modloni o gwbl.<\/p>\n

Yn yr ysgol, fe wnes i weithio\u2019n galed, cael graddau da, ond doeddwn i ddim yn disgleirio a chefais i mo nghanmol erioed. Doeddwn i byth angen help ychwanegol chwaith. Roeddwn i rywle yn y canol – gr\u0175p o fyfyrwyr sy\u2019n cael eu hanghofio. Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r brifysgol ar \u00f4l Safon Uwch. Roeddwn i’n teimlo ar goll. Nawr rydw i\u2019n rhagori ar fy nisgwyliadau fy hun ac yn mwynhau gwaith am y tro cyntaf. Rydw i wedi cael swydd yn gweithio ar brosiect adfer afonydd ar gyfer un o elusennau cadwraeth mwyaf y DU, gan ennill cymhwyster arall ar yr un pryd. Cyfle rydw i mor gyffrous amdano ac ni fyddai wedi bod yn bosib oni bai am fy mhrofiad blaenorol i ym maes cadwraeth.<\/p>\n

Rydw i’n bendant wedi cael cyfnodau da a drwg, adegau lle’r oeddwn i\u2019n ei chael yn anodd, lle nad oeddwn i\u2019n teimlo \u2019mod i\u2019n cyflawni cymaint ag y dylwn i. Roedd gen i amheuon am yr hyn roeddwn i\u2019n mynd i’w wneud ar y diwedd, a fyddwn i’n dod o hyd i swydd neu a fyddwn i’n treulio gweddill fy mywyd yn gweithio ar gontractau tymor byr heb fawr o gynnydd na sicrwydd. Ond fe wnes i ddal ati i weithio a dod allan yr ochr arall, yn gryfach ac yn hapusach oherwydd hynny. Roeddwn i’n gwybod bod Jo a\u2019r t\u00eem yno os oedd oeddwn i angen help, cyngor neu hyd yn oed sgwrs.<\/p>\n

Rydw i mor ddiolchgar am y cyfleoedd mae YDMT yn eu darparu i oedolion ifanc fel fi. Rydw i\u2019n credu y dylai pawb gael y cyfle i wneud cynnydd gyda’r gefnogaeth iawn, nid dim ond y rhai ar y naill ben a’r llall i’r sbectrwm academaidd. Mae YDMT yn dod o hyd i bobl sydd wir yn poeni am fyd natur ac yn rhoi cyfle iddyn nhw. Dim ots beth yw eu cefndir neu eu graddau nhw, os ydyn nhw’n meddwl y gallan\u2019 nhw eich helpu chi, fe fyddan\u2019 nhw’n gwneud eu gorau glas i’ch cael chi lle rydych chi eisiau bod.<\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae fy mhrentisiaeth 16 mis i gydag Ymddiriedolaeth Natur Cumbria ac YDMT wedi bod yn anhygoel. Ddwy flynedd yn \u00f4l, doeddwn i ddim yn gwybod am beth roeddwn i’n teimlo\u2019n angerddol neu eisiau ei wneud. Fe roddodd y brentisiaeth yma gyfle i mi ddysgu am fyd natur, ac amdanaf i fy hun. Rydw i wedi […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":8131,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8148"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8148"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8148\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8150,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8148\/revisions\/8150"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8131"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8148"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8148"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8148"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}