{"id":8185,"date":"2021-02-23T16:12:18","date_gmt":"2021-02-23T16:12:18","guid":{"rendered":"http:\/\/oeof.bsb\/?p=8185"},"modified":"2021-02-23T16:45:02","modified_gmt":"2021-02-23T16:45:02","slug":"mae-dwr-yn-sylwedd-rydym-yn-ei-ddiystyru-ai-anwybyddu-yn-aml-ond-gall-fod-yn-ffynhonnell-bywyd-ei-hun-neun-ffynhonnell-trasiedi","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/02\/23\/mae-dwr-yn-sylwedd-rydym-yn-ei-ddiystyru-ai-anwybyddu-yn-aml-ond-gall-fod-yn-ffynhonnell-bywyd-ei-hun-neun-ffynhonnell-trasiedi\/","title":{"rendered":"Mae d\u0175r yn sylwedd rydym yn ei ddiystyru a’i anwybyddu yn aml ond gall fod yn ffynhonnell bywyd ei hun neu’n ffynhonnell trasiedi"},"content":{"rendered":"

\"\"Mae\u2019r blog yma wedi\u2019i ysgrifennu gan Gemma, merch 16 oed o Gaerefrog sy\u2019n Gynrychiolydd ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n rhoi ei barn ar sut mae d\u0175r wedi effeithio ar ble mae’n byw a’r atebion yn y dyfodol a allai helpu Caerefrog i addasu i lefelau afonydd uwch.<\/strong><\/p>\n

D\u0175r. Mae d\u0175r yn sylwedd rydym yn ei ddiystyru a’i anwybyddu yn aml ond gall fod yn ffynhonnell bywyd ei hun neu’n ffynhonnell trasiedi a thristwch mawr.<\/p>\n

Mae dinas Caerefrog yng ngogledd Lloegr wedi’i hadeiladu o amgylch Afon Ouse sy’n llifo drwy ganol y ddinas. Mae perthynas y ddinas \u00e2’r afon wedi bod yn un ofidus ers 1263 fel mae cofnodion yn dangos, ond wrth i amser fynd heibio, daeth dinas Caerefrog yn fwy parod i ymladd yn erbyn y llifddwr. Gwnaed llawer o amddiffynfeydd rhag llifogydd ac i ddiogelu Afon Ouse dros y blynyddoedd. Digwyddodd llifogydd mwyaf y ganrif yn 2000 pan gododd d\u0175r yr afon i 5.5 metr yn uwch na\u2019i huchder arferol gan greu llifogydd mewn 540 o adeiladau a dod \u00e2\u2019r ddinas i stop am 3 diwrnod.<\/p>\n

Fodd bynnag, efallai mai\u2019r llifogydd sydd wedi aros yng nghof y bobl ifanc sy’n byw yng Nghaerefrog fwyaf yw llifogydd Dydd San Steffan 2015 a greodd cymaint o ddinistr i bobl Caerefrog. Cododd Afon Ouse i 5.2 metr yn uwch na\u2019i huchder yn ystod yr haf a dioddefodd 500 o gartrefi lifogydd. Roedd hyn yn golygu bod mwy na 300 o bobl wedi cael eu cynghori i adael eu cartrefi neu fod yn barod i wneud hynny ac roedd angen llety dros dro ar gyfer mwy na chant o bobl ledled Caerefrog. Nid oedd llawer o bobl yng Nghaerefrog heb eu heffeithio gan y llifogydd, o’r bobl wnaeth orfod gadael eu cartrefi i fusnesau a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y llifogydd, a staff a chleifion a oedd yn ei chael yn anodd teithio i Ysbyty Caerefrog ac oddi yno, a\u2019r teuluoedd a\u2019r ffrindiau a effeithiwyd. Sefydlwyd ymholiad lleol ar \u00f4l y llifogydd gyda chynlluniau i wella ymateb, addysg a rhwystrau lleol rhag i lifogydd ddigwydd eto. Ymwelodd David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, \u00e2 Chaerefrog ac addawodd \u00a340 miliwn ychwanegol i frwydro yn erbyn y llifogydd a helpu gydag amddiffynfeydd yng Nghaerefrog a Sir Efrog.<\/p>\n

Yn anffodus, nid oedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerefrog yn anghyffredin oherwydd tua diwedd 2015 cafodd sawl rhan o ogledd Lloegr lifogydd. I drigolion Caerefrog, mae glaw trwm bob amser yn destun pryder; i fusnesau lleol o amgylch yr afon, roedd 2020 yn flwyddyn anodd ar \u00f4l i rai gael eu gorfodi i gau, neu fod ar eu gwyliadwraeth. Roedd hyn oherwydd llifogydd ysgafn ym mis Chwefror oherwydd storm Dennis, a’r cyfyngiadau symud cenedlaethol a ddilynodd ym mis Mawrth. Ym mis Ionawr 2021, gwelodd Caerefrog fwy o lifogydd a phroblemau ar \u00f4l i Afon Ouse godi eto i 4.64 metr. Mae cyllid pellach o \u00a32 miliwn yn cael ei ystyried ar gyfer cynllun amddiffyn rhag llifogydd. Daw hyn ar \u00f4l i drigolion ardal Ffordd Fordland a Chilgant Fordland orfod defnyddio cerbydau 4X4 i gyrraedd yr ysgol, gwaith a’u cartrefi oherwydd glaw trwm. Byddai’r cyllid cynyddol yn golygu bod y wal atal llifogydd bresennol yn cael ei hymestyn yn ogystal \u00e2 gosod fflap falf newydd yng nghwlfert Germany Beck ac adeiladu gorsaf bwmpio newydd.<\/p>\n

 <\/p>\n

I ddinas Caerefrog a llawer o ddinasoedd eraill yng ngogledd Lloegr, yn ogystal \u00e2 gweddill y DU, mae amddiffynfeydd da rhag llifogydd yn anghenraid. Mae bywydau pobl a busnesau lleol yn\"\" parhau i gael eu heffeithio gan lifogydd mewn ffyrdd digynsail, sy’n achosi straen a phryder i gymunedau cyfan. Mae llawer o ddadleuon am yr achosion a’r atebion i’r llifogydd. Mae llawer yn amau\u2019r syniad mai newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang yw’r broblem, gydag awgrymiadau i wella coetiroedd a gwlybdiroedd er mwyn lleihau d\u0175r ffo. Mae\u2019n ymddangos mai amddiffynfeydd peirianyddol rhag llifogydd yw’r dull o reoli llifogydd sy\u2019n cael ei ffafrio yn gyson, ond maent yn ddrud a phur anaml maent yn gwella agweddau ecolegol ar goridorau afon yn \u00f4l astudiaeth Forest Research o liniaru perygl llifogydd. Erbyn hyn mae awgrymiadau bod coetiroedd gorlifdir a phriddoedd sy’n dal lleithder yn lliniaru llifogydd i lawr yr afon wrth iddynt amsugno d\u0175r yn well. Fodd bynnag, mae llawer o briddoedd yn cael eu cywasgu gan beiriannau ac anifeiliaid fferm ac felly maent yn ei chael yn anodd amsugno d\u0175r.<\/p>\n

Mae cynghorau lleol ac asiantaethau cefnogi yn gwneud cymaint o waith er mwyn amddiffyn rhag llifogydd a pharatoi ar gyfer hynny, er mwyn sicrhau bod eu dinasyddion yn ddiogel, er gwaethaf cyllidebau prin. Fodd bynnag, mae lle i lawer o welliant yn yr amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Nghaerefrog a gogledd Lloegr ac efallai bod angen ymchwil i systemau cost-effeithiol ac effeithiol sy’n gweithio gyda natur nid yn ei herbyn.<\/p>\n

 <\/p>\n

Mae un peth yn sicr: wrth i gynhesu byd-eang barhau, bydd ei effeithiau’n cael eu teimlo a’r cymunedau mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef os na fyddwn yn gweithredu. Mae d\u0175r yn cynrychioli bywyd ei hun ond mae ganddo’r p\u0175er i’w ddinistrio hefyd. Mae d\u0175r yn b\u0175er y mae angen i ni ddysgu byw gydag ef nid yn ei erbyn. D\u0175r.<\/p>\n

 <\/p>\n

Gobeithio fy mod i wedi eich argyhoeddi chi bod d\u0175r yn bwnc pwysig iawn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn lleisio eich barn ar reoli d\u0175r yn y dyfodol a sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed, beth am ymuno \u00e2 digwyddiad Asiantaeth yr Amgylchedd ar 16 Mawrth, 17:00-19:00 \u2013 rhagor o wybodaeth yma<\/a>.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae\u2019r blog yma wedi\u2019i ysgrifennu gan Gemma, merch 16 oed o Gaerefrog sy\u2019n Gynrychiolydd ar Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n rhoi ei barn ar sut mae d\u0175r wedi effeithio ar ble mae’n byw a’r atebion yn y dyfodol a allai helpu Caerefrog i addasu i lefelau afonydd uwch. D\u0175r. Mae d\u0175r yn sylwedd rydym […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":8181,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8185"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8185"}],"version-history":[{"count":7,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8185\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8198,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8185\/revisions\/8198"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8181"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8185"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8185"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8185"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}