{"id":8227,"date":"2021-03-02T14:57:07","date_gmt":"2021-03-02T14:57:07","guid":{"rendered":"http:\/\/oeof.bsb\/?p=8227"},"modified":"2021-03-02T14:59:09","modified_gmt":"2021-03-02T14:59:09","slug":"the-wasting-generation","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/03\/02\/the-wasting-generation\/","title":{"rendered":"Y Genhedlaeth Goll?"},"content":{"rendered":"

\"\"Mae David Sharrod, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog, yn adrodd ei stori, gan dynnu sylw at bwysigrwydd yr angen am ddarparu cefnogaeth gyda chael swyddi amgylcheddol.<\/strong><\/p>\n

Fy mlog cyntaf i. Wedi dweud hynny, amser maith yn \u00f4l, fe wnes i rywbeth tebyg. Fe ysgrifennais i ddyddiadur ar gyfer papur newydd The Sunday Times am fod yn berson ifanc graddedig di-waith yn ystod cyfnod tywyll. Roedd yn cael ei galw\u2019n “Genhedlaeth Goll\u201d.<\/p>\n

Swnio’n gyfarwydd? Mae’r pandemig, diweithdra cynyddol a phobl ifanc yn poeni am eu dyfodol wedi dod ag atgofion dwys yn \u00f4l. Rydw i’n teimlo dros unrhyw rai ohonoch chi sydd yn yr un sefyllfa nawr. \u2019Alla\u2019 i ddim rhoi cyngor; ond efallai dim ond rhannu rhywfaint o fy stori fy hun a rhywfaint o adlewyrchu, a allai eich helpu chi i feddwl.<\/p>\n

1982. Dydw i ddim eisiau rhygnu mlaen am “yr hen ddyddiau tywyll” ond roedd yn teimlo’n ofnadwy; digalon. Yn debyg iawn i\u2019r cyfnod yma. Roedd diweithdra 3 gwaith yn uwch bryd hynny, hyd yn oed yn waeth i bobl ifanc. Roedd y newyddion i gyd yn ddigalon. Rhaniadau dwfn mewn cymdeithas ym “Mhrydain Thatcher”. Adleisiau o BLM gyda therfysgoedd a ddechreuodd yn Brixton a Toxteth ond a ledaenodd i Derby ddiflas hyd yn oed, lle’r oeddwn i. Chwiliwch am \u201cGhost Town\u201d gan The Specials; dyma g\u00e2n Rhif Un oedd yn adlewyrchu ysbryd y cyfnod i\u2019r dim. Gyda newid yn yr hinsawdd yn gwmwl uwch ein pen ni heddiw, rhyfel niwclear oedd yn ein poeni ni bryd hynny; roedd llawer o fy ffrindiau’n argyhoeddedig ein bod ni ar drothwy’r apocalyps.<\/p>\n

O ran fy mhrofiad personol i, ar \u00f4l gadael cartref i fynd i’r Brifysgol, roedd rhaid i mi fynd \u00e2 \u2019nghap yn fy llaw yn \u00f4l at fy rhieni, a threulio 18 mis yno, yn ddi-waith, heb geiniog i fy enw ac yn teimlo’n ynysig iawn. Ac roedd y berthynas deuluol dan straen yn sicr. Nid oedd unrhyw un yn defnyddio geiriau fel lles neu iechyd meddwl bryd hynny, ond fe effeithiodd arna\u2019 i\u2019n arw ac rydw i\u2019n dal i ymgodymu \u00e2\u2019r profiad.<\/p>\n

\u2019Ddaeth unrhyw beth positif allan o\u2019r profiad? Wel rydw i’n adnabod c\u00e2n yr adar yn dda iawn ac rydw i’n diolch i Mrs Thatcher am hynny! Fel gyda’r cyfyngiadau symud nawr, gorfodais fy hun i sefydlu trefn ddyddiol; beicio allan i fannau gwyrdd a dysgu a rhestru\u2019n obsesiynol enwau adar a blodau. Rydyn ni\u2019n siarad nawr am les corfforol a meddyliol a phwrpas. Bryd hynny, roeddwn i’n gwybod ei fod yn fy nghadw i rhag llithro i iselder \u2013 neu waeth. Daeth yn rhan greiddiol o fy mywyd i; bod yn rhan o fyd natur a’r tymhorau; ffynhonnell o lawenydd gydol oes. Heddiw ddiwethaf, fe gododd s\u0175n curo Cnocell y Coed fy nghalon i\u2019n fawr iawn.<\/p>\n

Hefyd fe ddysgais i barchu a dangos empathi at r\u00f4l a bywydau gwahanol pobl eraill, gan gynnwys y rhai rydyn ni bellach yn eu galw\u2019n weithwyr allweddol. Fe wnes i fachu pa bynnag waith oedd ar gael \u2013 ambell ddiwrnod neu wythnos, arian parod yn fy llaw yn aml; labro, glanhau toiledau mewn adran damweiniau brys (s\u00f4n am agoriad llygad!); warws, ffatri, gwaith gwesty a bar, unrhyw beth. Fe ddysgais i wybodaeth a sgiliau rydw i wedi eu defnyddio yn aml iawn ond, yn bwysicach na hynny, fe wnes i brofi\u2019r balchder o wneud unrhyw dasg yn dda, wrth wasanaethu a helpu pobl eraill; a pha mor arbennig ydi byw mewn cymdeithas amrywiol. Amrywiaeth sy\u2019n gwneud bywyd yn ddifyr.<\/p>\n

Fe wnes i wirfoddoli hefyd ac ymuno \u00e2 grwpiau lleol. Pwrpas eto, ond hefyd roedd bod gydag eraill oedd yn rhannu diddordeb mewn byd natur yn lleihau unigrwydd ac yn rhoi ymdeimlad o bersbectif i mi \u2013 yn enwedig gan bobl h\u0177n; gall dim ond cymysgu gyda\u2019ch cyfoedion fod yn ddwys iawn – hyd yn oed cyn i’r cyfryngau cymdeithasol fodoli. Fel y digwyddodd pethau, roedd gwirfoddoli\u2019n ddefnyddiol iawn i gael swyddi yn nes ymlaen \u2013 mae’n edrych yn dda ar unrhyw CV.<\/p>\n

Yn y diwedd, fe gefais i le ar gynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y di-waith yn y tymor hir, gan wneud Addysg Amgylcheddol yn Warrington, dan arweiniad bos goleuedig a blaengar, oedd yn gwneud i ni wneud pethau rhyfedd y byddem yn eu galw’n Ysgolion y Goedwig heddiw. Fe wnaethon ni blannu miloedd o goed. Roeddwn i\u2019n hoffi gweithio gyda phlant ac fe arweiniodd hynny at gael cynnig lle ar gwrs hyfforddi athrawon. Er hynny … mewn eiliad wallgof sy’n newid bywyd rhywun, wrth i mi eistedd yn aros i ddechrau ar y cwrs, fe sylweddolais i bod y misoedd caled hynny wedi fy ngwneud i\u2019n benderfynol o wneud rhywbeth gyda fy mywyd oedd wir yn bwysig i mi. Roedd dweud wrth fy rhieni \u2019mod i\u2019n gwrthod y cynnig ac yn dod adref eto yn “heriol”. Wedyn fe gefais i\u2019r un cyfle hwnnw rydyn ni i gyd ei angen; swydd warden, yn byw allan ar Ynysoedd Farne yn gweithio gydag adar m\u00f4r, morloi llwyd ac ymwelwyr. Arweiniodd hynny at flynyddoedd lawer o weithio mewn gwarchodfeydd natur ledled y wlad. Contractau byr, cyflog difrifol, profiadau bywyd gwyllt anhygoel, dysgu llawer, byw mewn llefydd gwych, o d\u0175r o’r 12fed ganrif i d\u0177 bad achub, a chasgliad hyfryd o hen garafanau’n gollwng d\u0175r. Ffrindiau newydd ym mhob man a chymaint o chwerthin.<\/p>\n

Neidio i heddiw. Rydw i’n dal i geisio newid y byd yn fy ffordd fach fy hun. Rydw i bellach yn Brif Weithredwr elusen amgylcheddol. Rydw i’n dal i wirfoddoli; bellach fel Ymddiriedolwr a Chadeirydd sawl elusen arall, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur. Rydw i’n ymwneud yn genedlaethol, yn lob\u00efo dros newid yn y senedd ac mewn mannau eraill, rydw i’n mynd ar drywydd arian i wneud pethau da, rydw i’n… wel, a bod yn onest, yn y b\u00f4n rydw i’n eistedd mewn cyfarfodydd bob dydd neu’n syllu ar sgrin cyfrifiadur.<\/p>\n

Efallai bod hon yn ymddangos fel fy stori ddiflas i, ond roedd cymaint ohonom ni wnaeth fyw drwy’r amser hwnnw. Rydw i’n edrych o gwmpas ac yn gweld faint o arweinwyr yn y byd\"\" amgylcheddol a blaengar ehangach, ffrindiau rydw i’n eu hedmygu, ddaeth drwy’r cyfnod hwnnw gyda straeon tebyg sydd wedi mowldio ein barn ni am y byd… A pheidiwch \u00e2 chael eich twyllo chwaith; oes, mae’n debyg bod gan lawer ohonom ni swyddi “sefydliad” erbyn hyn ond rydyn ni, os rhywbeth, hyd yn oed yn fwy angerddol, neu ddig, am bethau. Rydw i’n cefnogi ymgyrchwyr o\u2019r llinell ochr i raddau helaeth; er un o fy hoff eiliadau i ychydig cyn y cyfyngiadau symud oedd cerdded yn syth allan o gyfarfod yn y Trysorlys yn Whitehall i ymuno am gyfnod byr gyda ffrindiau gydag XR y tu allan i Fanc Lloegr, yn fy siwt o hyd. Efallai bod fy ngwallt i\u2019n britho ond rydw i\u2019n bync yn fy nghalon o hyd!<\/p>\n

Yn fwy na dim arall, efallai, fe roddodd y cyfnod hwnnw ymrwymiad dwfn i mi i gefnogi pobl ifanc sydd eisiau newid y byd ond heb allu gweld eu ffordd ymlaen. Mae bod yn rhan fach iawn o sefydlu Our Bright Future ac wedyn cael y fraint (oedd yn codi ofn arna\u2019 i) o’i gadeirio am gyfnod yn un o’r pethau gorau i mi ei wneud erioed. Fel y dywedodd ffrind annwyl pan ddechreuodd y cyfan, ” Our Bright Future ydi’r mudiad rydw i wedi bod yn aros amdano ar hyd fy oes.” Biti na fyddai\u2019n bodoli pan oedd arna\u2019 i ei angen, mae’n cynnig cymaint o gyfleoedd, a rhwydwaith o ffrindiau a chefnogaeth am oes gobeithio, felly cofiwch fanteisio\u2019n llawn arno.<\/p>\n

Fe wnes i ddweud na fyddwn i\u2019n rhoi cyngor ond daliwch i gredu; peidiwch ag anobeithio am eich sefyllfa eich hun na chyflwr y byd: dysgwch, helpwch, gofalwch, cydiwch yn unrhyw gefnogaeth a mentora, manteisio ar bob cyfle, yn enwedig y rhai gwallgof sy\u2019n codi ofn, ac yn fwy na dim, cofiwch fwynhau<\/em> byd natur a’r hyn rydych chi\u2019n ceisio’i wneud er ei les; neu sut gallwch chi rannu’r angerdd hwnnw gyda phobl eraill? \u2019Alla\u2019 i ddim dweud wrthych chi pa mor falch a diolchgar ydw i, ac iawn, mi wn\u00e2i gyfaddef … pa mor eiddigeddus ydw i pan fyddaf yn cwrdd \u00e2’r holl bobl ifanc syfrdanol sy’n ymwneud \u00e2’r mudiad yma. Rydych chi i gyd yn anhygoel!<\/p>\n

Cenhedlaeth Goll felly? NA. Our Bright Future!<\/strong><\/p>\n

 <\/p>\n

 <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae David Sharrod, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog, yn adrodd ei stori, gan dynnu sylw at bwysigrwydd yr angen am ddarparu cefnogaeth gyda chael swyddi amgylcheddol. Fy mlog cyntaf i. Wedi dweud hynny, amser maith yn \u00f4l, fe wnes i rywbeth tebyg. Fe ysgrifennais i ddyddiadur ar gyfer papur newydd The Sunday […]<\/p>\n","protected":false},"author":64,"featured_media":8232,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8227"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/64"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8227"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8227\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8237,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8227\/revisions\/8237"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8232"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8227"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8227"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8227"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}