{"id":8332,"date":"2021-04-06T12:05:02","date_gmt":"2021-04-06T11:05:02","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=8332"},"modified":"2021-04-06T13:39:10","modified_gmt":"2021-04-06T12:39:10","slug":"bulbtober","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/04\/06\/bulbtober\/","title":{"rendered":"Bulbtober"},"content":{"rendered":"

\"\"Fe wnaeth Emma sy\u2019n 14 oed a’i gr\u0175p sgowtiaid archwilio\u2019r awyr agored, helpu i ddiogelu pryfed a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny!<\/strong><\/p>\n

“Ychydig wythnosau’n \u00f4l yn ein cyfarfod Sgowtiaid fe aethon ni allan i’r tywyllwch, gyda thortshys pen a hetiau gwl\u00e2n. Fe wnaethon ni rannu’n grwpiau a mynd \u00e2 thryweli a bylbiau gyda ni. Gan ddefnyddio golau ein tortshys, fe wnaethon ni gloddio’r ddaear. Wedyn, fe wnaethon ni osod bylbiau yn y ddaear yn ofalus a’u rhoi i mewn o dan y pridd. Yn nhywyllwch y nos, fe fuon ni\u2019n gosod planhigion blodau gwyllt o amgylch y gwelyau a’r cafnau. Ond pam oedden ni’n gwneud hyn yn y nos yng ngolau tortsh? Roedd ein catrawd ni, rhif 91 Sgowtiaid Bryste, yn cymryd rhan yn Bulbtober<\/strong>, sy’n brosiect sy’n cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Natur Avon ac sy’n ceisio cael llawer o bobl i gysylltu \u00e2 byd natur drwy blannu bylbiau a blodau gwyllt yn ystod mis Hydref. Bydd popeth wnaethon ni ei blannu\u2019n helpu pryfed i ffynnu ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae 40% o bryfed mewn perygl mawr o ddiflannu. Efallai eich bod chi\u2019n meddwl nad yw hynny’n bwysig; efallai eich bod chi hyd yn oed yn meddwl bod pryfed yn niwsans weithiau, ond mewn gwirionedd mae 70% o’n bwyd ni\u2019n dibynnu ar bryfed ar gyfer peillio, felly mae’n hanfodol eu diogelu nhw!<\/p>\n

Mae Bulbtober<\/strong> yn fath o beth mae Sgowtiaid yn hoffi cymryd rhan ynddo, oherwydd rydyn ni wrth ein bodd gyda’r awyr agored ac yn helpu natur. Fe fuon ni\u2019n plannu ar Gomin Ardagh yn Horfield, sy’n lle cyhoeddus anhygoel sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Mae’n lle llawn byd natur sy’n agored i’r gymuned gyfan ei fwynhau! Roedden ni mor falch o blannu’r bylbiau a’r blodau gwyllt yma, \u2019allwn ni ddim aros i’w gweld nhw\u2019n blodeuo yn y gwanwyn a gwybod y bydd llawer o bobl yn cael eu mwynhau. Ac wrth gwrs bydd y pryfed hefyd! A dweud y gwir, mae un bylb wnaethon ni ei blannu, y blodyn crocws, yn blodeuo\u2019n gynnar yn y gwanwyn, felly mae’n ffynhonnell fwyd wych i bryfed pan nad oes llawer o ddim byd arall o gwmpas.<\/p>\n

Ers ychydig fisoedd rydyn ni fel Sgowtiaid wedi bod yn gorfod cyfarfod y tu allan oherwydd cyfyngiadau Covid. Rydyn ni wedi gwneud y gorau o’r gofod awyr agored ac roedd cymryd rhan yn Bulbtober<\/strong> yn gyfle gwych a wnaeth y gorau o fod y tu allan a gwneud i ni deimlo ein bod ni\u2019n gwneud rhywbeth positif dros ein hamgylchedd. Wrth gwrs, rydyn ni bellach yn \u00f4l dan gyfyngiadau a dim ond yn gallu cyfarfod ar Zoom, ond rydyn ni\u2019n cadw\u2019n bositif ac yn gwybod na fydd yn hir nes gallwn ni ddod at ein gilydd eto. Fel y bylbiau sy’n eistedd yn amyneddgar o dan y pridd yn aros i ddod allan i olau haul y Gwanwyn, rydyn ni hefyd yn bod yn ddewr am y cyfyngiadau symud ac yn gwybod y bydd dyfodol disglair yn blodeuo’n fuan i bob un ohonom ni.”<\/p>\n

Diolch i Emma am rannu ei phrofiad ac i’r cannoedd o bobl ifanc sydd wedi plannu bylbiau a blodau gwyllt ar draw<\/em>s Avon.<\/em><\/p>\n

\"\"Mae prosiect Our Bright Future Ymddiriedolaeth Natur Avon wedi bod yn cynnig profiadau, sgiliau a hyfforddiant drwy weithgareddau ymarferol ers dros bedair blynedd ac mae mor falch o fod yn dal i ymgysylltu \u00e2’i gymuned gynyddo<\/em>l o gadwraethwyr ifanc. Gyda chymaint o gyfleoedd hwyliog yn cael eu hatal, roedd yn deimlad gwych gallu cynnig gweithgareddau oedd yn galluogi cadw pellter cymdeithasol. Ar adeg pan mae digwyddiadau bywyd mawr yn cael eu troi wyneb i waered; gadael cartref, dechrau yn y Brifysgol, meithrin cyfeillgarwch yn yr ysgol a thrwy Sgowtiaid a chlybiau ieuenctid, roedd Ymddiriedolaeth Natur Avon yn gallu cynnig rhywbeth cyffrous i gadw’r cysylltiadau hynny’n fyw.\u00a0<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Fe wnaeth Emma sy\u2019n 14 oed a’i gr\u0175p sgowtiaid archwilio\u2019r awyr agored, helpu i ddiogelu pryfed a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny! “Ychydig wythnosau’n \u00f4l yn ein cyfarfod Sgowtiaid fe aethon ni allan i’r tywyllwch, gyda thortshys pen a hetiau gwl\u00e2n. Fe wnaethon ni rannu’n grwpiau a mynd \u00e2 thryweli a bylbiau gyda […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":8327,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8332"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8332"}],"version-history":[{"count":5,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8332\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8340,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8332\/revisions\/8340"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8327"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8332"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8332"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8332"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}