{"id":8385,"date":"2021-04-12T16:15:35","date_gmt":"2021-04-12T15:15:35","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=8385"},"modified":"2021-04-12T16:15:35","modified_gmt":"2021-04-12T15:15:35","slug":"fy-amser-i-gydar-cyngor-ieuenctid","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/04\/12\/fy-amser-i-gydar-cyngor-ieuenctid\/","title":{"rendered":"Fy amser i gyda\u2019r Cyngor Ieuenctid"},"content":{"rendered":"

\"\"Mae Caitlin yn 21 oed ac yn dod o Warrington ac mae\u2019n rhannu ei phrofiad o fod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn.<\/p>\n

Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i lawer o bobl, gan effeithio\u2019n arbennig ar iechyd meddwl pobl ifanc. Fel myfyrwraig wedi cymryd blwyddyn fwlch o’r brifysgol, roeddwn i\u2019n ei chael yn anodd delio \u00e2\u2019r holl gyfyngiadau. Ond, diolch i Uwchgynhadledd Ieuenctid y Dirwedd Carbon ym mis Awst 2020, cefais wybod am y Cyngor Ieuenctid a chyflwyno fy nghais ar unwaith!<\/p>\n

Mae bod yn rhan o’r Cyngor Ieuenctid yn ystod y pandemig wedi bod yn brofiad mor bleserus. Roedd cael gr\u0175p o bobl ifanc debyg iawn i mi i siarad gyda nhw, yn ogystal ag achos i\u2019w gefnogi yn ystod cyfnod anodd iawn, yn hynod werthfawr i mi. Rydw i wedi bod yn lwcus i gael profiadau gwych \u2013 gan gynnwys dod yn agos at ymddangos ar raglen Calan Gaeaf arbennig Blue Peter i drafod ystlumod! Yn anffodus bu’n rhaid canslo\u2019r ffilmio oherwydd COVID – tro nesaf efallai!<\/p>\n

Yn ystod fy nghyfnod fel aelod o’r cyngor, cefais wybod am y 31 o brosiectau anhygoel ledled y wlad sy\u2019n rhan o Our Bright Future ac yn cefnogi pobl ifanc a’u perthynas \u00e2 natur, yn enwedig pan fues i yn seminar flynyddol Our Bright Future fel Cynrychiolydd Ieuenctid prosiect ecotherapi anhygoel Ymddiriedolaethau Natur Sir Caerhirfryn, ‘Myplace’. Roedd y digwyddiad ar-lein yma\u2019n eithriadol ysbrydoledig oherwydd weithiau gall bod yn berson ifanc sy’n angerddol am yr amgylchedd fod yn brofiad eithaf ynysig, ond tynnodd y seminar fy sylw i at faint o bobl ifanc eraill yn y DU sy’n frwdfrydig dros gymryd rhan yn eu hamgylcheddau lleol.<\/p>\n

Mae fy hyder i wedi gwella’n fawr ers bod yn rhan o’r Cyngor, yn enwedig mewn siarad cyhoeddus. Yn ystod fy amser ar y cyngor, roeddwn i ac ychydig o\u2019r aelodau eraill yn ddigon ffodus i gael siarad gyda Cat Smith, yr AS dros Gaerhirfryn a Fleetwood, am iechyd meddwl a swyddi gwyrdd i bobl ifanc. Gwnaeth y profiad yma i mi sylweddoli bod posib i ni ymgysylltu \u00e2’n ASau a dylanwadu arnyn nhw, gan roi hyder i mi gysylltu \u00e2 fy AS fy hun a siarad am faterion pwysig. Hefyd mae bod yn rhan o’r cyngor wedi gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus am estyn allan at eraill am gyfleoedd \u2013 weithiau fe allwn ni deimlo’n lletchwith yn gofyn i eraill am help ond rydw i wedi dysgu bod pobl bob amser yn barod i helpu ac na chewch chi ddim byd heb ofyn!<\/p>\n

Rydw i hefyd wedi cael cyfleoedd i ddatblygu fy sgiliau presennol wrth ysgrifennu blogiau ac ymgyrchu. Roeddwn i wedi cymryd rhan mewn ymgyrchoedd amgylcheddol yn y gorffennol, ond mae’r Cyngor Ieuenctid wedi fy addysgu i am sut i ymgysylltu \u00e2 hwy a’u cefnogi’n effeithiol, fel eu hymgyrch 30 wrth 30. Mae’r ymgyrch bwysig yma\u2019n galw am gysylltu o leiaf 30% o’n tir a’n m\u00f4r a’u diogelu ar gyfer adferiad natur erbyn 2030, ac rydw i’n edrych ymlaen at ei chefnogi gyda fy sgiliau newydd gan y cyngor.\"\"<\/p>\n

Mae fy amser i\u2019n gweithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn a bod ar y cyngor wedi cadarnhau fy angerdd i dros weithio ym maes cadwraeth ac mae’n bendant yn llwybr gyrfa rydw i eisiau ei ddilyn ar \u00f4l gorffen yn y brifysgol. Cefnogi ceisiadau am gyllid, gwneud fideos addysgol a chysylltu ag eraill \u2013 dim ond rhai o’r pethau gefais i eu mwynhau tra oeddwn i’n aelod o’r cyngor, a byddaf yn mynd \u00e2\u2019r sgiliau gwerthfawr yma ymlaen gyda mi i yrfa.<\/p>\n

Rydw i’n hynod ddiolchgar am y bobl rydw i wedi cwrdd \u00e2 nhw a’r profiadau rydw i wedi’u cael yn ystod fy amser ar y cyngor ieuenctid, ac rydw i’n gobeithio y bydd aelodau’r dyfodol yn cael profiad mor wych \u00e2 fi ac yn mwynhau pob cyfle!<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae Caitlin yn 21 oed ac yn dod o Warrington ac mae\u2019n rhannu ei phrofiad o fod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Caerhirfryn. Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i lawer o bobl, gan effeithio\u2019n arbennig ar iechyd meddwl pobl ifanc. Fel myfyrwraig wedi cymryd blwyddyn fwlch o’r […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":8382,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8385"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8385"}],"version-history":[{"count":1,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8385\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8386,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8385\/revisions\/8386"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8382"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8385"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8385"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8385"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}