{"id":8439,"date":"2021-05-05T10:09:24","date_gmt":"2021-05-05T09:09:24","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=8439"},"modified":"2021-05-05T10:14:28","modified_gmt":"2021-05-05T09:14:28","slug":"rhannu-dysgu-gwella-beth-pam-a-sut","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/05\/05\/rhannu-dysgu-gwella-beth-pam-a-sut\/","title":{"rendered":"Rhannu Dysgu Gwella \u2013 beth, pam a sut"},"content":{"rendered":"

\"\"<\/p>\n

Dylai unrhyw raglen bartneriaeth gryfhau ac ychwanegu at bob elfen sy\u2019n rhan ohoni ac mae’n ffaith adnabyddus bod cydweithio mewn partneriaeth fel arfer yn cyflawni mwy na sefydliadau neu brosiectau sy’n gweithio ar wah\u00e2n. Felly, pan oedd Our Bright Future – un o’r partneriaethau cydweithredol mwyaf i gael ei chyllido drwy Gronfa Gymunedau’r Loteri Genedlaethol – yn cael ei llunio, roedd sut i ffrwyno a chynyddu’r effaith gyfunol yn bwnc llosg! Ond sut? Gyda chonsortiwm rheoli rhaglen cyffredinol o wyth sefydliad a 31 o brosiectau unigol ledled y DU, a llawer ohonynt yn cynnwys partneriaethau \u00e2 sefydliadau eraill ar eu liwt eu hunain, sut byddem yn meithrin ac yn datblygu ymdeimlad o undod, cydlyniant a dysgu a rennir ar draws y rhaglen?<\/p>\n

 <\/p>\n

Yr ateb oedd y fframwaith Rhannu Dysgu Gwella (RhDG). Dyma swyddogaeth benodol a gynlluniwyd i hwyluso rhannu gwybodaeth a dysgu i ddatblygu arfer gorau, ychwanegu gwerth at gyflwyno rhaglenni a chryfhau effeithiau a chanlyniadau ar draws y rhaglen Our Bright Future. Mae RhDG yn seiliedig ar ddull dysgu cylchol gan sicrhau adborth ac awgrymiadau gan brosiectau sy’n gweithredu ‘ar lawr gwlad’ ynghyd \u00e2 mewnbynnau ‘darlun mawr’ o’r swyddogaethau strategol sy’n llywodraethu Our Bright Future fel Gr\u0175p Llywio’r rhaglen. Roedd hyn yn sicrhau dull cyfannol a hyblyg o ymdrin \u00e2 RhDG. Yn fras roedd y swyddogaeth yn cynnwys pum maes allweddol:<\/p>\n