{"id":8556,"date":"2021-05-18T15:58:58","date_gmt":"2021-05-18T14:58:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=8556"},"modified":"2021-05-18T15:58:58","modified_gmt":"2021-05-18T14:58:58","slug":"diwrnod-ym-mywyd-gwenynwr-yn-ystod-y-cyfnod-clo","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/05\/18\/diwrnod-ym-mywyd-gwenynwr-yn-ystod-y-cyfnod-clo\/","title":{"rendered":"Diwrnod ym Mywyd Gwenynwr yn ystod y Cyfnod Clo"},"content":{"rendered":"

Mae bod yn wenynwr “Bee You” yn ystod y cyfnod clo wedi creu heriau ond addasodd y t\u00eem a chroesawodd y cyfleoedd a ddaeth i\u2019n rhan ni.<\/p>\n

 <\/p>\n

Fe wnaeth addysgu am gadw gwenyn newid yn llwyr, yn syml am ei fod yn bwnc ymarferol a gweledol iawn. Roedd agweddau a gymerwyd yn ganiataol yn yr ystafell ddosbarth neu’r wenynfa hyfforddi, fel gwneud fframiau, blasu m\u00eal, arogli paill, gwisgo siwt gwenyn, goleuo ysmygwr ac, wrth gwrs, mynd i edrych y tu mewn i gwch gwenyn i weld a theimlo’r gwenyn wrth iddynt wneud eu gwaith. Does dim modd gwerthfawrogi na deall gwenyn m\u00eal mewn unrhyw ffordd heblaw am fod yn eu plith.<\/p>\n

\"\"\"\"<\/p>\n

Lluniau gan Andrea Ku<\/em><\/p>\n

Roedd rhaid addasu ein hadnoddau addysgu a’n cyflwyniadau i gyd-fynd \u00e2 chyflwyno ar-lein, oedd yn golygu bod rhaid i luniau adrodd llawer o straeon lluosog a bod rhaid defnyddio geiriau gofalus i gyfateb i\u2019r lluniau a chreu dealltwriaeth o bell ond drwyadl.<\/p>\n

 <\/p>\n

Aethom ati i ddarparu ein prosiect i’r rhai oedd \u00e2 diddordeb mewn gwenyn ond, y darganfyddiad newydd a wnaed oedd ein bod yn llwyddo i gyrraedd y tu hwnt i’n cynulleidfa barod arferol. Ar \u00f4l ymateb da drwy hysbysebu ein sesiynau cadw gwenyn ar-lein, ymunodd llawer o bobl ifanc, rhai na fyddai wedi gwybod amdanom ni mae\u2019n bur debyg oni bai am y pandemig. Roedd y newid cadarnhaol yma yn ystod cyfnod anodd yn golygu ein bod yn cyflwyno i lawer mwy o bobl ifanc, gan gynnig cyfle iddyn nhw ddysgu pwnc newydd sbon a chodi ymwybyddiaeth am wella ein hamgylchedd.<\/p>\n

 <\/p>\n

Roedd diwrnod yn haf 2020 yn cynnwys addysgu am gadw gwenyn yn y bore i grwpiau o bobl ifanc, y rhan fwyaf o Lerpwl ond rhai o bob cwr o’r DU. Roedd Zoom yn newydd i bob un ohonom ni felly roedd ‘ti ar mute’<\/em> yn cael ei ddweud yn aml iawn! Fe gefais i fy ngalw\u2019n ‘Ken Dodd’ y byd tiwtoriaid cadw gwenyn yn Blackburne House am fy mod i\u2019n mynd dros fy amser yn aml! Mae’n ffaith adnabyddus am y Sgowsar doniol yma bod ei sioeau byw yn para am oriau wedi\u2019r amser gorffen oedd wedi\u2019i nodi. \u2019Alla\u2019 i ddim cymryd y bai 100% am hyn gan fod cymaint o gwestiynau gwych yn cael eu gofyn drwy gydol y sesiynau…. arwydd da iawn bod y myfyrwyr yn dysgu ac eisiau gwybod mwy.<\/p>\n

 <\/p>\n

Roedd prynhawn heulog o haf yn ystod y cyfyngiadau symud yn amser delfrydol i fynd i edrych ar wenyn prosiect Bee You. Rydw i’n helpu i ofalu am 15 o gychod gwenyn mewn gardd gymunedol yn Ford, Litherland ac yng Ngerddi Botaneg Ness, dau leoliad gwahanol iawn a hynod hardd gyda digonedd o fwyd i\u2019r ddwy wenynfa.<\/p>\n

 <\/p>\n

Yn ffodus, dydi Covid ddim yn effeithio ar iechyd gwenyn felly diolch byth doedd dim angen cadw pellter cymdeithasol! Fe fyddai hynny\u2019n gur pen mawr!<\/p>\n

\"\"\"\"<\/p>\n

Lluniau gan Andrea Ku<\/em><\/p>\n

Manteisiwyd ar y cyfle i recordio\u2019r archwiliadau ar y gwenyn ar gamera, fel cynnwys ar gyfer y ddarpariaeth ar-lein. Fel arfer, byddai\u2019r myfyrwyr yn gwisgo eu siwtiau gwenyn, menig mawr ac ysmygwyr, gydag adnodd cwch gwenyn yn eu llaw. Y tro yma, roedd rhaid i mi ddangos beth oedd y pethau yma a pham rydyn ni\u2019n eu defnyddio. Fe wnes i fuddsoddi mewn rhyw becyn dal ff\u00f4n yn steil dylanwadwr i\u2019w glipio ar ochr y cwch gwenyn agored ac wedyn roeddwn i\u2019n gallu siarad drwy\u2019r archwiliad ar y cwch. Gan y byddai myfyrwyr o fy nghwmpas i fel arfer, roedd braidd yn rhyfedd siarad a neb arall yno ond roedd hyn i gyd yn gwneud synnwyr yn y ddarpariaeth ar-lein a doeddwn i ddim yn teimlo’n wirion yn ei wneud eto!<\/p>\n

 <\/p>\n

Y peth da am ffilmio archwilio gwenyn yw bod posib anfon y rhain at fyfyrwyr, i’w gwylio eto yn eu hamser eu hunain. Anogwyd cymryd nodiadau wrth gyflwyno\u2019r cwrs gyda’r cyfle i anfon nodiadau cwrs at fyfyrwyr i gadarnhau eu dysgu.<\/p>\n

 <\/p>\n

Daeth un agwedd annisgwyl ond cadarnhaol iawn ar addysgu ar-lein yn amlwg yn ystod y cyflwyniadau. Roeddwn i wedi gweithio gyda rhai ysgolion a cholegau sydd \u00e2 rhai myfyrwyr pryderus a nerfus na fyddent yn gallu bod yng nghwmni eu cyfoedion ac na fyddai\u2019n gallu canolbwyntio. Fe gafodd hyn ei oresgyn yn llwyr wrth gyflwyno ar-lein. Y myfyrwyr a fyddai fel arfer yn cael trafferth gyda’u gorbryder a’u gallu i ganolbwyntio yn y coleg oedd y rhai cyntaf yn ystafelloedd aros Zoom, gan ganolbwyntio drwy gydol y sesiwn (oedd yn amlwg gan eu bod yn gofyn llawer o gwestiynau perthnasol yn y sgwrs) ac yn aros am bob munud o bob sesiwn. Roedd eu tiwtoriaid yn rhyfeddu at y newid mawr yma yn y myfyrwyr gorbryderus ac roedden nhw\u2019n anfon negeseuon gwych atom ni\u2019n canmol y myfyrwyr a’r ddarpariaeth.<\/p>\n

“Fe wnes i fwynhau’r sesiwn a gyflwynwyd gennych chi i mi a\u2019r myfyrwyr yn fawr. Roedd pob sesiwn yn llawn gwybodaeth, yn ysgogol ac yn ymgysylltu \u00e2 phawb mewn ffordd hwyliog! Roedd yn ymddangos bod rhai o’r dysgwyr ‘pryderus’ a ‘swil’ yn y criw yn mwynhau’r sesiwn ac roedden nhw\u2019n ymddangos yn llawer mwy hyderus yn ystod y dysgu o bell. Roedd mor addysgiadol ac fe wnes i ddewis defnyddio’r pwnc ar gyfer sesiwn cyntaf fy addysgu TAR. Yn bennaf gan fy mod i wedi dysgu cymaint o wybodaeth ddiddorol, ac roeddwn i eisiau ei rhannu!” – Tiwtor yng Ngholeg Myerscough<\/p>\n

 <\/p>\n

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, dyma un o fy hoff ddarganfyddiadau i am addysgu ar-lein. Mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am addysgu cynhwysol wrth symud ymlaen, i gadw’r rhai anodd eu cadw gobeithio ac i gynnig mwy o gyfleoedd i’r rhai sy’n ei chael yn anodd oherwydd gorbryder i fanteisio ar y cyfleoedd hynny.<\/p>\n

\"\"<\/em><\/p>\n

Lluniau gan Andrea Ku<\/em><\/p>\n

Ysgrifennwyd gan Andrea Ku, tiwtor cadw gwenyn gyda phrosiect Bee You yn Blackburne House<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Mae bod yn wenynwr “Bee You” yn ystod y cyfnod clo wedi creu heriau ond addasodd y t\u00eem a chroesawodd y cyfleoedd a ddaeth i\u2019n rhan ni.   Fe wnaeth addysgu am gadw gwenyn newid yn llwyr, yn syml am ei fod yn bwnc ymarferol a gweledol iawn. Roedd agweddau a gymerwyd yn ganiataol yn […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":8566,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8556"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8556"}],"version-history":[{"count":4,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8556\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":8570,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/8556\/revisions\/8570"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/8566"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8556"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=8556"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=8556"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}