{"id":8664,"date":"2021-05-27T16:00:52","date_gmt":"2021-05-27T15:00:52","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=8664"},"modified":"2021-05-27T16:00:52","modified_gmt":"2021-05-27T15:00:52","slug":"sedd-losg-yr-hinsawdd-rhoi-gwres-eu-traed-i-arweinwyr","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/05\/27\/sedd-losg-yr-hinsawdd-rhoi-gwres-eu-traed-i-arweinwyr\/","title":{"rendered":"Sedd Losg yr Hinsawdd \u2013 Rhoi gwres eu traed i arweinwyr"},"content":{"rendered":"
Yn y gorffennol, mae pobl ifanc wedi cael eu portreadu\u2019n aml fel carfan o bobl heb ddiddordeb mewn etholiadau neu\u2019n anwleidyddol. Ni allai hyn fod yn bellach o\u2019r gwir o\u2019m profiad i o gefnogi gr\u0175p o 15 o bobl ifanc i drefnu hystings amgylcheddol cenedlaethol i ieuenctid cyn etholiadau Senedd yr Alban.<\/p>\n Trefnwyd prosiect Sedd Losg yr Hinsawdd gan bobl ifanc a oedd yn cynrychioli saith sefydliad ieuenctid \u2013 YouthLink Scotland, Children in Scotland, Senedd Ieuenctid yr Alban, Fridays for Future Scotland, Teach the Future Scotland, Cyfeillion Ifanc y Ddaear yr Alban a Gr\u0175p Hinsawdd 2050.<\/p>\n Daeth y gr\u0175p trefnu ag arweinwyr pum prif blaid wleidyddol yr Alban at ei gilydd i ateb cwestiynau a gyflwynwyd gan bobl ifanc ar bynciau fel targedau hinsawdd, addysg amgylcheddol a llais ieuenctid.<\/p>\n Yn ystod y digwyddiad, soniodd Dylan, 16 oed, un o gymedrolwyr ifanc y digwyddiad, am y pwysau ar bobl ifanc i weithredu dros yr hinsawdd i lenwi’r bwlch sydd wedi\u2019i adael gan y rhai sy\u2019n gwneud penderfyniadau:<\/p>\n “Rydw i eisiau dangos i chi i gyd ein bod ni’n ddig iawn, iawn. Rydyn ni\u2019n ceisio curo ar eich drysau chi. Rydw i wedi aberthu fy addysg a chael plentyndod normal er mwyn pwyso arnoch chi i ddatrys problem rydyn ni\u2019n gwybod amdani ers degawd cyn i mi gael fy ngeni. Os yw’r sylwadau yma heno wedi dangos unrhyw beth i ni, yr hyn mae wedi\u2019i ddangos yw nad yw pobl ifanc yn cytuno eich bod chi wedi gwneud yr hyn sy’n angenrheidiol chwaith.<\/p>\n “Dyma fy mywyd i yn y dyfodol a dyma fywydau pobl ledled y byd ar hyn o bryd. Ni ddylech chi gael eich ysbrydoli gennym ni, dylech fod yn ddig ac yn ofidus. Fe ddylwn i fod \u00e2 digon i boeni amdano heb orfod poeni am y posibilrwydd o’r argyfwng ffoaduriaid mwyaf rydyn ni wedi\u2019i weld erioed.”<\/p>\n Fel ymateb, dywedodd Nicola Sturgeon, y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban: “Mae geiriau’n hawdd ond rhaid i chi ein dal ni i gyfrif ar ein gweithredoedd.”<\/p>\n Ymatebodd Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Willie Rennie, drwy ddweud:<\/p>\n “Rydych chi i gyd wedi gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus. Dyma’r eithaf gwaethaf ac rydw i\u2019n ddiolchgar i chi am fod mor onest gyda ni. Rhaid i ni wneud yn si\u0175r ein bod yn cyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ein gwlad os ydyn ni am gael planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”<\/p>\n Yn ystod y ddadl, dywedodd pob un o arweinwyr y pum plaid y byddent yn gwahardd plastig untro ac roedd cytundeb bod angen rhoi addysg hinsawdd ar waith yn ysgolion yr Alban fel blaenoriaeth.<\/p>\n Pan rydym yn ystyried bod 96% o bobl ifanc yr Alban yn dweud eu bod yn bryderus am newid yn yr hinsawdd<\/a><\/strong>, rhaid i wleidyddion gydnabod y bydd pleidleiswyr ifanc yn rhoi blaenoriaeth i bleidiau sy\u2019n gweithredu heb orffwys ar eu rhwyfau o ran eu dal i gyfrif.<\/p>\n Gwylio hystings Sedd Losg yr Hinsawdd: https:\/\/youtu.be\/X2NYT73tmPY<\/a><\/strong><\/p>\nYsgrifennwyd y blog yma gan Emily Beever.<\/strong><\/p>\n