{"id":9080,"date":"2021-09-13T16:48:37","date_gmt":"2021-09-13T15:48:37","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=9080"},"modified":"2021-09-13T16:48:37","modified_gmt":"2021-09-13T15:48:37","slug":"fy-mhrofiad-i-gydag-ein-glannau-gwyllt","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/09\/13\/fy-mhrofiad-i-gydag-ein-glannau-gwyllt\/","title":{"rendered":"Fy Mhrofiad i gydag Ein Glannau Gwyllt"},"content":{"rendered":"

\"\"Llun: E Lowe- Emma ger y Fenai.<\/em><\/p>\n

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Emma, Intern Cadwraeth Forol. <\/strong>Pan orffennais fy ngradd meistr fis Medi diwethaf, nid oedd gennyf unrhyw syniad beth oedd yn fy wynebu yn y dyfodol. Mae’r cyfleoedd ar gyfer biolegwyr morol lefel mynediad yn gystadleuol fel mae hi, ond wrth ddod allan o gyfyngiadau symud hefyd, daeth chwilio am gyfle yn fwy heriol byth. Ar \u00f4l ychydig fisoedd yn gwneud cais am swyddi ledled y wlad, daeth cyfle anhygoel gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Roedd pump interniaeth ar gael drwy brosiect Ein Glannau Gwyllt – prosiect sy’n annog pobl ifanc yng Ngogledd Cymru i gymryd rhan mewn gwaith amgylcheddol. Cefais fy nghyfweliad cyntaf erioed ar brynhawn dydd Sul, a hynny wyneb yn wyneb, ac ychydig ddyddiau’n ddiweddarach cefais gynnig lle Intern Ymgysylltu \u00e2 Moroedd Byw.<\/p>\n

Ar \u00f4l astudio fy ngradd israddedig mewn Bioleg Forol a’m gradd \u00f4l-raddedig mewn Diogelu’r Amgylchedd Morol ym Mhrifysgol Bangor, roeddwn wedi syrthio mewn cariad ag arfordir Cymru. Roeddwn mor falch o’r cyfle i weithio yng Ngogledd Cymru a helpu i ddiogelu’r amgylchedd morol drwy ledaenu ymwybyddiaeth o faterion morol i’r cyhoedd. Drwy gydol fy interniaeth gydag Ein Glannau Gwyllt, roeddwn yn gallu adeiladu ar yr wybodaeth yr oeddwn wedi dysgu yn y brifysgol a meithrin sgiliau newydd. O wella fy sgiliau adnabod infertebratau morol gydag arolygon Shoresearch a chynnal digwyddiadau glanhau traethau i roi sgyrsiau ar-lein, roedd fy mhedwar mis gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn llawn profiadau newydd cyffrous.<\/p>\n

\"\"Llun: E Lowe. Glanhau\u2019r Traeth ym Mhorth Neigwl, Diwrnod 2 o 12diwrnodcyn12diwrnodyNadolig<\/em><\/p>\n

Am 12 diwrnod cyntaf mis Rhagfyr roedd y t\u00eem Glannau Gwyllt yn cynnal digwyddiadau glanhau traethau bob dydd gydag aelodau o’r cyhoedd a gwirfoddolwyr. Nod y gyfres hon o ddigwyddiadau glanhau traethau oedd codi ymwybyddiaeth o’r gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu dros gyfnod yr \u0175yl a chafodd ei henwi’n ’12 Diwrnod cyn 12 Diwrnod y Nadolig’. Dechreuais arni ar unwaith ac roeddwn allan ar y traeth ar yr ail ddiwrnod yn arsylwi sut i gynnal digwyddiad glanhau traeth er mwyn paratoi i gynnal un fy hun.<\/p>\n

Fy nigwyddiad cyntaf i’r cyhoedd oedd glanhau traeth ar ddiwrnod 11 y gyfres 12 Diwrnod. Y traeth a ddewisais oedd Porth Nobla ar hyd arfordir dwyreiniol Ynys M\u00f4n ger cyrchfan syrffwyr Rhosneigr. Ar yr olwg gyntaf, roedd y traeth yn edrych yn l\u00e2n, ond wrth i ni gerdded ar ei hyd daeth yn amlwg y byddem yn llenwi ein bagiau’n hawdd. O beledi plastig a ffyn cotwm i glustogau soffa, roedd sbwriel ym mhobman.<\/p>\n

Yn anffodus, ar drothwy\u2019r flwyddyn newydd cawsom ein taro \u00e2 chyfyngiadau symud eto.\u00a0 Er bod hyn wedi cyflwyno anawsterau, roedd hefyd yn agor y drws i gyfleoedd a phrofiadau newydd. Gan nad oeddem yn gallu cynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb, cafodd ein gweithgareddau ymgysylltu eu symud ar-lein. Gyda ph\u0175er Zoom a ffrydio byw Facebook, fe wnaethom lwyddo i addasu i’r amgylchedd gwaith newydd hwn.<\/p>\n

Ym mis Chwefror, cynhaliodd y t\u00eem Glannau Gwyllt \u0175yl m\u00f4r ar-lein, ‘Shore-nanigans.\u2019 Roedd hwn yn benwythnos o weithgareddau ar-lein a oedd yn cynnwys sgyrsiau a cherddoriaeth. Rhoddais fy sgwrs Zoom gyntaf ar rywogaethau goresgynnol morol i gynulleidfa o tua 60 o bobl o bob cwr o’r DU. Roedd cyflwyno’n rhithwir yn brofiad hollol wahanol o’i gymharu \u00e2 rhoi sgyrsiau wyneb yn wyneb ac er fy mod yn nerfus, roedd hefyd yn hynod gyffrous gallu rhoi gwybod i gynifer o bobl am rywogaethau goresgynnol morol.<\/p>\n

\"\"<\/p>\n

Llun: E Lowe. Cranc Llyffant yng Nghricieth, a welwyd yn ystod arolwg Shoresearch<\/em><\/p>\n

Yn ogystal \u00e2 chynnal gweithgareddau ymgysylltu, rhoddodd fy interniaeth gyfle i mi redeg fy mhrosiect fy hun. Ar \u00f4l i wirfoddolwr gysylltu \u00e2 mi yn gofyn am bresenoldeb Cranc Montagu yng Ngogledd Cymru, datblygais arolwg gwyddoniaeth i ddinasyddion i fonitro rhywogaethau crancod – Crabtastic. Nod Crabtastic oedd cael syniad o ble mae gwahanol rywogaethau o grancod i’w cael ar hyd arfordir Gogledd Cymru. Mae cranc Montagu yn ddangosydd newid yn yr hinsawdd, a chredir bod ei ddosbarthiad yn cynyddu tua’r gogledd wrth i dymheredd y d\u0175r godi. Yn ogystal \u00e2 datblygu arolwg, darparais sesiynau hyfforddi i wirfoddolwyr hefyd ar gyfer y fethodoleg a’r broses adnabod crancod.<\/p>\n

Roedd fy interniaeth yn caniat\u00e1u i mi archwilio’r arfordir rwy’n ei garu gymaint a pharhau i ddatblygu fy sgiliau bioleg forol. Ers gorffen ym mis Mawrth, rwyf wedi gallu aros gyda\u2019r Ymddiriedolaeth Natur fel Intern Cadwraeth gyda’r Ymddiriedolaethau Natur sy’n caniat\u00e1u i mi barhau i gefnogi gwaith cadwraeth forol ledled y wlad. Mae’r sgiliau a’r profiadau a gefais drwy fy interniaeth gydag Ein Glannau Gwyllt wedi fy helpu i gael fy nhroed yn y drws ar gyfer gwaith cadwraeth forol ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn y dyfodol.<\/p>\n

\"\"<\/p>\n

Llun: E Lowe- Porth Swtan, Ynys M\u00f4n. Lle profais y methodolegau crabtastic.<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Llun: E Lowe- Emma ger y Fenai. Ysgrifennwyd y blog hwn gan Emma, Intern Cadwraeth Forol. Pan orffennais fy ngradd meistr fis Medi diwethaf, nid oedd gennyf unrhyw syniad beth oedd yn fy wynebu yn y dyfodol. Mae’r cyfleoedd ar gyfer biolegwyr morol lefel mynediad yn gystadleuol fel mae hi, ond wrth ddod allan o […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":9070,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9080"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9080"}],"version-history":[{"count":3,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9080\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9083,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9080\/revisions\/9083"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9070"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9080"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9080"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9080"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}