{"id":9205,"date":"2021-10-15T15:47:30","date_gmt":"2021-10-15T14:47:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=9205"},"modified":"2021-10-15T15:47:30","modified_gmt":"2021-10-15T14:47:30","slug":"adlewyrchu-ar-eco-bryder-ar-ol-diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2021\/10\/15\/adlewyrchu-ar-eco-bryder-ar-ol-diwrnod-iechyd-meddwl-y-byd\/","title":{"rendered":"Adlewyrchu ar eco bryder ar \u00f4l Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd"},"content":{"rendered":"

\"\"<\/p>\n

Cynhaliwyd Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gynharach y mis yma, gan roi cyfle i bobl a sefydliadau ledled y byd, ac o bob cefndir, siarad am bwnc pwysig iechyd meddwl. Er bod stigma yn aml yn gysylltiedig \u00e2 salwch meddwl, mae wedi bod yn galonogol gweld cymaint o sgyrsiau agored a negeseuon cefnogol yn cael eu rhannu, ynghyd \u00e2 chyngor ar y pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i ofalu am ein lles meddyliol.<\/p>\n

Fel rhywun sy’n gweithio yn y sector amgylcheddol, rydw i’n ymwybodol iawn o’r buddion aruthrol y gall treulio amser ym myd natur eu cynnig i\u2019n hiechyd meddwl. Mae’n rhoi lle i ni ddianc rhag ein pryderon o ddydd i ddydd, yn gwella ein hwyliau ac yn ein galluogi i gael gwared ar emosiynau negyddol wrth i ni ganolbwyntio ar harddwch y byd naturiol o’n cwmpas. Gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi creu cymaint o newid o ran sut mae llawer ohonom yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd, nid yw rhoi amser i fod ym myd natur a\u2019i werthfawrogi yn llawnach wedi bod yn bwysicach erioed.<\/p>\n

Mae rhai ohonom, er hynny, yn wirioneddol bryderus am fyd natur a’n hamgylchedd. Efallai eich bod wedi clywed y term \u2018eco bryder\u2019 yn amlach o lawer yn ystod y blynyddoedd diwethaf – ond beth ydi hyn?<\/p>\n

Eco bryder yw poeni am yr amgylchedd a’r bygythiadau sy’n ei wynebu, yn fwyaf cyffredin efallai o ran newid yn yr hinsawdd. Mae cymaint ohonom yn poeni am y dyfodol, ac yn meddwl ym mha gyflwr fydd ein byd naturiol. A yw’n syndod, yn wyneb y rhagfynegi brawychus am effeithiau newid yn yr hinsawdd, bod pobl yn teimlo’n bryderus? Mae hyn yn arbennig o nodedig o ran pobl ifanc sy’n poeni am y newidiadau y byddant yn byw drwyddynt, o ran effeithiau ac ymdrechion i addasu i newid yn yr hinsawdd.<\/p>\n

Mae eco bryder yn ymateb dealladwy i sefyllfa lethol ac, er nad yw’n broblem iechyd meddwl ynddi’i hun, gall waethygu problemau iechyd meddwl presennol a sbarduno llawer iawn o straen. Os ydych chi’n teimlo dan straen neu’n bryderus am newid yn yr hinsawdd, neu broblemau eraill sy’n effeithio ar y byd naturiol, rhaid i chi ddeall nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae’n gyflwr anghyfforddus i fod ynddo, ond mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i wneud y teimladau hyn o bryder yn haws eu rheoli.<\/p>\n

 <\/p>\n