{"id":9483,"date":"2022-01-17T19:02:57","date_gmt":"2022-01-17T19:02:57","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/2022\/01\/17\/what-is-outdoor-learning\/"},"modified":"2022-01-17T19:45:16","modified_gmt":"2022-01-17T19:45:16","slug":"what-is-outdoor-learning","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2022\/01\/17\/what-is-outdoor-learning\/","title":{"rendered":"Beth yw dysgu yn yr awyr agored?"},"content":{"rendered":"
<\/p>\n
Mae’r blog yma wedi cael ei ysgrifennu gan Nadiyah, sy’n 22 oed, ac wedi graddio mewn Gwyddoniaeth Amgylcheddol. Mae hi\u2019n aelod newydd o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae gan Nadiyah ddiddordeb mewn materion amgylcheddol ac mae’n awyddus i siarad amdanyn nhw i helpu i fynd i’r afael \u00e2 newid yn yr hinsawdd. Yma, mae’n dweud wrthym ni am ei phrofiad o ddysgu yn yr awyr agored a’i fanteision niferus.<\/p>\n
Mae dysgu yn yr awyr agored yn ffordd weithredol<\/strong> ac ymarferol<\/strong> o addysgu a dysgu sy’n golygu bod allan yn yr awyr agored. Mae’n trawsnewid y profiad rydych chi\u2019n ei gael o ran dysgu sgiliau newydd lle byddwch yn dysgu sgiliau sut i roi adborth, ymholi, adolygu ac adlewyrchu. Ar ben hynny, mae’n helpu i ddatblygu gwybodaeth am eraill a ni\u2019n hunain, dealltwriaeth o’r pwnc y mae’r plant yn dysgu amdano, yr amgylchedd, yn annog goddefgarwch, cydweithredu, sgiliau gweithio mewn t\u00eem gwych ac empathi. Mae dysgu yn yr awyr agored yn gwneud dysgu’n gorfforol. Gall gynnwys y canlynol:<\/p>\n Fel y gwelwch chi, nid oes raid i ddysgu yn yr awyr agored fod yn seiliedig ar natur nac mewn cynefinoedd o ansawdd uchel er mwyn addysgu yn yr awyr agored – y cyfan sydd ei angen yw unigolion awyddus i wneud hynny. Gyda’ch dychymyg a drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein gallwch greu gwers hwyliog a hawdd i’ch myfyrwyr.<\/p>\n Oeddech chi’n gwybod? <\/u><\/strong><\/p>\n Mae gan Ddysgu yn yr Awyr Agored gymaint o fanteision. Gall sicrhau\u2019r canlynol…<\/p>\n Arolwg gan y Prosiect The Natural Connections Demonstration 2016. Lluniwyd gan Nadiyah.<\/p>\n Drwy dreulio mwy o amser yn y parc roeddwn i’n gwirfoddoli ynddo roedd gen i ddiddordeb yn y gwahanol rywogaethau o goed felly fe luniais i lwybr coed i ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2 ei ddilyn yn y parc. Roeddwn i’n teimlo’n greadigol<\/strong> ac fe ddysgais ffeithiau diddorol am rai coed nad oeddwn erioed wedi clywed amdanyn nhw.<\/p>\n Fy mhrofiad i<\/u><\/strong><\/p>\n Llwybr Mathemateg:<\/p>\n Fe gefais i gyfle gwych i helpu mewn sesiynau ysgol awyr agored ym Mharc West Ham, Dwyrain Llundain. Fe gymerais i ran mewn sesiwn Llwybr Mathemateg lle’r oeddem wedi gosod 10 cwestiwn o amgylch y parc ac offer amrywiol fel t\u00e2p mesur, olwyn fach gyda chownter a rhaff. Roedd rhai o’r cwestiynau’n cynnwys mesur cylchedd boncyff coeden, radiws darn cylchol ar y llawr a pha mor dal yw’r polyn fflag.<\/p>\n Cyfeiriannu:<\/p>\n Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ymarfer cyfeiriannu wrth iddynt ddysgu sut i ddarllen map drwy ei droi i wynebu’r gogledd a defnyddio cwmpawd i wneud hyn. Roedden nhw’n gwrando’n astud iawn ar sut i wneud hyn ac yna’n rhoi cynnig arni eu hunain. Gan ddefnyddio’r map dywedwyd wrthynt am ddod o hyd i’r pwyntiau ar y map ac ateb y cwestiynau pan ddaethant o hyd i’r pwyntiau hynny yn y parc.\u00a0 Roedden nhw wedi cyffroi ac yn falch ohonyn nhw eu hunain pryd bynnag roedden nhw’n dod o hyd i’r ffon bamb\u0175 gyda’r cwestiynau.<\/p>\n Pysgota pyllau a hela bwystfilod bach:<\/p>\n Dyma oedd fy hoff weithgareddau i. Fe ddysgais i am y rhywogaethau sy’n byw yn y pwll fel larfau gwybed Mai, madfallod d\u0175r, rhianedd y d\u0175r, gelenod a mwydod. Roedd gweision y neidr hefyd yn llawn cyffro yn sgil ein hymweliad gan fy mod yn credu eu bod yn hoffi ein harogl. Fe laniodd un ar fy nghoes i! Cafodd y plant gyfle i bysgota mewn pyllau lle dangoswyd iddynt sut i gasglu llawer iawn o rywogaethau yn eu rhwyd yn effeithiol. Cawsant gyfle i ddysgu sgil newydd! Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ofalus i beidio ag amharu ar y rhywogaethau felly roeddent yn dangos gofal a charedigrwydd<\/strong>. Roedden nhw hefyd yn dangos hyn wrth hela bwystfilod bach lle’r oedd angen amynedd a thalu sylw<\/strong>. Gyda’r anifeiliaid tir roedden nhw\u2019n gallu edrych o dan gynefinoedd gwahanol i ddod o hyd i’r anifeiliaid ac roeddent yn defnyddio clai i greu eu bwystfilod bach eu hunain gan ddefnyddio eu sgiliau creadigol.<\/p>\n <\/p>\n Beth all athrawon ei wneud i ychwanegu dysgu yn yr awyr agored at y cwricwlwm?<\/span><\/u><\/strong><\/p>\n Gallant edrych ar lefydd i addysgu yn yr awyr agored yn ogystal \u00e2 dolenni i syniadau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored isod:<\/span><\/p>\n . <\/span>Forest schools | The Good Schools Guide<\/span><\/a><\/span><\/span><\/p>\n .\u00a0<\/span>Ymuno \u00e2’n Rhwydwaith Ysgolion – London National Park City<\/span><\/a><\/span><\/span><\/p>\n .\u00a0<\/span>Gweithgareddau Dysgu yn yr Awyr Agored CA2 – Adnoddau Dysgu yn yr Awyr Agored (twinkl.co.uk)<\/span><\/a><\/span><\/span><\/p>\n .\u00a0<\/span>https:\/\/www.outdoor-learning.org\/Covid-19\/Supporting-Schools-New<\/span><\/a><\/span><\/span><\/p>\n .\u00a0<\/span>https:\/\/www.edenproject.com\/learn\/schools\/teacher-training-and-school-development<\/span><\/a><\/span><\/span><\/p>\n .\u00a0<\/span>Mae gan City of London Corporation<\/span><\/a><\/span><\/span> Swyddogion Dysgu sy’n arwain sesiynau \u2013 rwy’n argymell eich bod yn cysylltu \u00e2 nhw!<\/span><\/p>\n\n
\n
\n
\n
\n
\n
<\/p>\n
\n
\n
<\/p>\n