{"id":9651,"date":"2022-02-23T16:36:56","date_gmt":"2022-02-23T16:36:56","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=9651"},"modified":"2022-02-23T16:38:16","modified_gmt":"2022-02-23T16:38:16","slug":"youth-council-representing-youth-voice-at-cop26","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2022\/02\/23\/youth-council-representing-youth-voice-at-cop26\/","title":{"rendered":"Cyngor Ieuenctid: Yn cynrychioli Llais Ieuenctid yn COP26"},"content":{"rendered":"
Ar Dachwedd 9 2021, dewiswyd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Alex Kennedy, 17 oed a Muhammed Amin, 14 oed, i gymryd rhan mewn digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd yn COP26 yn Glasgow. Cafodd y digwyddiad, \u2018The North West Presents: Talking About My Generation<\/a><\/strong><\/span>\u2019, ei drefnu gan Bartneriaeth Menter Sir Gaerhirfryn a\u2019i gynnal yng Nghanolfan Wyddoniaeth Glasgow gyda chynulleidfa fyw ac yn cael ei ffrydio’n fyd-eang.<\/h6>\n
Cynrychiolodd Alex, ynghyd \u00e2 chydaelod o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Emma Greenwood (a ddewiswyd i gymryd rhan drwy ei r\u00f4l fel AS Ieuenctid Bury), lais pobl ifanc mewn trafodaeth banel gyda Maer Metro Lerpwl – Steve Rotherham a Maer Metro Manceinion – Andy Burnham. Llywyddwyd y panel gan Paul Masson, angor Newyddion y BBC.<\/h6>\n
\"\"<\/h6>\n
\"\"<\/h6>\n
Gwelwyd Alex ac Emma, ill dau ond yn 17 oed, yn ASau Ieuenctid, myfyrwyr coleg brwd dros wleidyddiaeth ac ymgyrchwyr natur a hinsawdd selog, yn dal eu tir ar y llwyfan byd-eang. Heriodd Emma Greenwood y ddau Faer i greu comisiwn ieuenctid ar draws Gogledd Orllewin Lloegr i ymgynghori \u00e2 phobl ifanc ar ddyfodol lleihau carbon ac adferiad byd natur ac i ddal arweinwyr yn atebol. Rydym yn hynod falch o’r ddwy ferch ifanc am godi eu llais a herio\u2019r rhai sydd mewn safleoedd pwerus i greu dyfodol gwyrddach, gwylltach a thecach. Cyhoeddwyd lai na deuddydd ar \u00f4l yr herio yma bod y ddau Faer wedi derbyn yr her ac y byddant yn cynllunio ar gyfer comisiwn ieuenctid i gynnwys llais pobl ifanc mewn llywodraethu.<\/h6>\n
Cafodd Alex ei herio gan y llywydd ynghylch pam ei bod yn astudio gwleidyddiaeth ac ddim yn ymgyrchu neu ymuno \u00e2\u2019r Gwrthryfel Difodiant, pam mae hi’n ymwneud \u00e2 gwleidyddiaeth swyddogol? Yng ngeiriau Alex ei hun:<\/h6>\n
\u201cYr un peth yn y b\u00f4n ydi ymgyrchu a gwleidyddiaeth, cangen o wleidyddiaeth ydi ymgyrchu, \u2019allwch chi ddim cael un heb y llall. Mae gwleidyddiaeth yn ffordd wych o ddylanwadu ar lunwyr polis\u00efau. Rydw i\u2019n gwneud y ddau, ac fel rhan o fy ngwaith gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn rydw i\u2019n cymryd rhan mewn cadwraeth bywyd gwyllt ac yn ymgyrchu gan ei fod yn wych ar gyfer lledaenu ymwybyddiaeth<\/em>\u201d.<\/h6>\n
Llais Ifanc Byd Natur<\/u><\/strong><\/h5>\n
Dewiswyd Muhammed i ddarllen cerdd wreiddiol \u201cBygones\u201d rhwng y ddau banel yn ystod y digwyddiad. Yn ei eiriau ei hun, wedi\u2019i gyfieithu, \u201cMae\u2019r gerdd yma\u2019n s\u00f4n am ein profiadau ni ym myd natur. Mae’n ddathliad o bopeth rydyn ni’n ei garu sy’n dod \u00e2 llawenydd a hapusrwydd i ni. Ond mae tristwch yn y llinellau hyn hefyd. Er enghraifft, mae\u2019r ddelwedd o ddafnau gwlith i mi yn cynrychioli\u2019r byd yn wylo am golli coedwigoedd.<\/em>\u201d<\/h6>\n
\"\"<\/h6>\n
Teithiodd Muhammed gyda Staff Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn ac Alex i fyny i Glasgow a dywedodd mai dyma’r pellaf iddo deithio heb ei deulu. Mae sylwadau Muhammad am y profiad i\u2019w gweld isod:<\/h6>\n
\u201cRoedd yn anrhydedd cynrychioli Cyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn COP26. Roedd cymryd rhan yn y digwyddiad nodedig yma yn uchafbwynt gwych i\u2019r flwyddyn i mi. Roedd y dechnoleg addysgol a gwychder pur yr arloesedd a arddangoswyd yn gwbl ysbrydoledig.<\/em>“<\/h6>\n
\"\"<\/em><\/h6>\n
Rydym ni fel Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn yn diolch i\u2019r bobl ifanc wych yma am oresgyn nerfau, teithio i lefydd newydd a siarad mor hyderus a huawdl ac, yn bennaf oll, yn angerddol am eu gwaith i helpu byd natur a\u2019r cynlluniau adfer hinsawdd.<\/h6>\n
<\/h6>\n
\u201cRoedd gweld aelodau ein Cyngor Ieuenctid yn cynrychioli ein sefydliad, yn eiriol dros bobl ifanc eraill yn ein rhanbarth ar lwyfan byd-eang o bwys yn anhygoel. Fe wnaeth Muhammed, Emma ac Alex, gyda\u2019i gilydd ac yn huawdl, gyfleu\u2019r angen am weithredu a brys ein brwydr tuag at Adferiad Natur.\u201d \u2013 Emma Bartlet, Uwch Swyddog Prosiect ac Eiriolwr Ieuenctid<\/h6>\n
<\/h6>\n
Diolch i Our Bright Future, rhaglen arloesol sy\u2019n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy\u2019n ymgysylltu \u00e2 phobl ifanc i wneud gwahaniaeth i\u2019r amgylchedd a chymunedau ledled y DU. Heb ei chefnogaeth ni fyddai cyfleoedd fel hyn yn bosibl.<\/h6>\n
<\/h6>\n
Ysgrifennwyd gan Eleanor Lampard \u2013 Swyddog Eiriolaeth Ieuenctid<\/h6>\n
Sylwadau gan Muhammed Amin ac Emma Bartlet<\/h6>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

Ar Dachwedd 9 2021, dewiswyd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaerhirfryn, Alex Kennedy, 17 oed a Muhammed Amin, 14 oed, i gymryd rhan mewn digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd yn COP26 yn Glasgow. Cafodd y digwyddiad, \u2018The North West Presents: Talking About My Generation\u2019, ei drefnu gan Bartneriaeth Menter Sir Gaerhirfryn a\u2019i […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":9616,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9651"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9651"}],"version-history":[{"count":2,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9651\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":9653,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9651\/revisions\/9653"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9616"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9651"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9651"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9651"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}