{"id":9942,"date":"2022-04-27T15:13:45","date_gmt":"2022-04-27T14:13:45","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/2022\/04\/27\/young-people-are-using-the-local-elections-in-wales-to-give-nature-a-voice\/"},"modified":"2022-04-27T15:19:52","modified_gmt":"2022-04-27T14:19:52","slug":"young-people-are-using-the-local-elections-in-wales-to-give-nature-a-voice","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2022\/04\/27\/young-people-are-using-the-local-elections-in-wales-to-give-nature-a-voice\/","title":{"rendered":"Mae pobl ifanc yn defnyddio’r Etholiadau Lleol yng Nghymru i roi llais i fyd natur!"},"content":{"rendered":"
<\/p>\n
Am y tro cyntaf eleni, bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael y cyfle i bleidleisio yn Etholiadau Awdurdodau Lleol Cymru ar y 5ed o Fai. Bydd pobl ifanc sy\u2019n ymwneud \u00e2 rhaglenni Ein Dyfodol Disglair a Sefyll dros Natur Cymru yn achub ar y cyfle hwn i roi llais i fyd natur a mynnu bod Awdurdodau Lleol Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfyngau byd natur a hinsawdd.<\/p>\n
Rhowch lais i fyd natur trwy gysylltu \u00e2’ch ymgeiswyr lleol yma.<\/a><\/strong><\/span><\/p>\n <\/p>\n Trafodaeth gyflym<\/strong><\/p>\n Yn gynharach y mis hwn, fe drefnon nhw gyfarfod \u201ctrafodaeth gyflym\u201d am yr etholiad lle bu ymgeiswyr ifanc o\u2019r prif bleidiau yn ateb cwestiynau gan bobl ifanc ar-lein. Cadeiriwyd y digwyddiad gan Poppy Stowell Evans, un o Lysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru ac roedd yn cynnwys ymgeiswyr ifanc o\u2019r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a\u2019r Democratiaid Rhyddfrydol, a ganolbwyntiodd yn benodol ar yr hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud yn ymarferol i fynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r argyfyngau natur a hinsawdd. Gellir gweld hwn ar-lein o hyd yma<\/a>.<\/span><\/strong><\/p>\n <\/p>\n Beth allwch chi ei wneud yn eich ardal eich hun<\/strong><\/p>\n Gan fod yr enwebiadau wedi cau bellach, mae gwefan arbennig wedi’i sefydlu i alluogi’r cyhoedd i gysylltu \u00e2\u2019u hymgeiswyr lleol a holi am eu cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael \u00e2’r argyfyngau natur a hinsawdd yn eu hardal nhw.<\/p>\n Dywed James<\/a> <\/span><\/strong>o Wynedd, sy\u2019n ymwneud \u00e2\u2019r prosiect Stand for Wales yng Ngogledd Cymru: \u201cNatur i mi yw\u2019r byd byw o\u2019ch cwmpas. Eich parc lleol er enghraifft. Neu eich gardd chi. Ar raddfa fwy, y coedwigoedd neu\u2019r cefnforoedd. Rydym ni ein hunain yn rhan o natur, yn dibynnu arno i oroesi. Rydyn ni\u2019n rhan o natur, yn dybynnol arno ar gyfer ein bwyd, ein d\u0175r gl\u00e2n, a’n deunyddiau adeiladu. Dyma\u2019r rheswm pam ei bod mor bwysig i gynghorau lleol ledled Cymru ddatgan argyfwng byd natur.\u201d<\/p>\n