{"id":9992,"date":"2022-05-11T16:10:55","date_gmt":"2022-05-11T15:10:55","guid":{"rendered":"https:\/\/www.ourbrightfuture.co.uk\/?p=9992"},"modified":"2022-09-27T16:11:14","modified_gmt":"2022-09-27T15:11:14","slug":"one-step-closer-to-our-goal-of-more-time-learning-in-and-about-nature","status":"publish","type":"post","link":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/2022\/05\/11\/one-step-closer-to-our-goal-of-more-time-learning-in-and-about-nature\/","title":{"rendered":"Un cam yn nes at ein nod o fwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano"},"content":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text]\"\"<\/p>\n

Ar 21 Ebrill, lansiodd yr Adran Addysg (DfE) y strategaeth Hinsawdd a Chynaliadwyedd<\/a><\/strong> newydd. Roedd gwir angen ffocws cadarnach ar r\u00f4l addysg wrth baratoi\u2019r cenedlaethau nesaf i fyw ac ymdrin \u00e2\u2019r argyfyngau amgylcheddol, iechyd a hinsawdd sy\u2019n cydblethu. Felly, rydym yn croesawu lansiad y strategaeth. Mae\u2019n wych gweld bod gwerth cysylltiad pobl ifanc \u00e2\u2019u hamgylchedd lleol wedi\u2019i gydnabod yn briodol, yn ogystal \u00e2\u2019r pwysigrwydd i bobl ifanc deimlo eu bod wedi\u2019u grymuso drwy weithredu cadarnhaol ymarferol.<\/p>\n

Mae pobl ifanc yn Our Bright Future wedi creu tri chais ar gyfer y newidiadau cadarnhaol maent eisiau eu gweld drostynt eu hunain a\u2019r amgylchedd a\u2019r un sydd agosaf at eu calonnau yn bendant yw \u201cdysgu mwy ym myd natur ac amdano\u201d. Dyma pam y gwnaethom gyfarfod yn ystod y misoedd diwethaf \u00e2 chynrychiolwyr o\u2019r DfE a chyfrannu\u2019n frwd at y strategaeth. Hefyd roedd tri o bobl ifanc o Our Bright Future ar y Panel Ieuenctid sydd wedi bod yn sail i\u2019r strategaeth yn ei chyfnod datblygu ac a fydd yn llywio ei gweithredu. Mae hwn yn gam sylweddol i’r cyfeiriad cywir ar gyfer ymgysylltiad o ansawdd da gan ieuenctid.<\/strong><\/p>\n

I mi, mae dau bwynt cadarnhaol yn gwbl amlwg yn y Strategaeth. Gadewch i mi roi eiliad i ddathlu’r rhain gyda chi ac adlewyrchu ar y camau nesaf.<\/strong><\/p>\n

Y cyntaf yw cyhoeddi pwnc ysgol newydd \u2013 TGAU hanes natur \u2013 a fydd yn galluogi pobl ifanc i ddysgu am organebau, yr amgylchedd a chynaliadwyedd a chael gwybodaeth ddyfnach ac ymarferol am fyd natur. Bydd hwn yn gyfle gwych i lawer o bobl ifanc a fydd, am y tro cyntaf, yn gallu datblygu dealltwriaeth gyfoethog o\u2019r byd naturiol: o\u2019u bywyd gwyllt lleol eu hunain, eu hamgylchedd a\u2019u hecosystemau i heriau byd-eang hollbwysig fel newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd.<\/p>\n

Fel mae pobl ifanc yn Our Bright Future wedi dweud wrthym yn rheolaidd, er y bydd y TGAU newydd yn bendant yn gwella gwybodaeth pobl ifanc am fyd natur ac yn eu grymuso i\u2019w warchod yn well, mae\u2019n bwysig iawn bod addysg natur a hinsawdd yn cael ei hymgorffori ar draws y cwricwlwm. Roedd ein prentis Ashleigh yn llygad ei lle yn ei blog diweddar, Yr angen am ailgysylltu pobl ifanc \u00e2 byd <\/em>natur<\/em><\/a><\/strong>,<\/em> pan ddywedodd ei bod yn allweddol i bob ysgol fod yn cynnal mwy o wersi yn yr awyr agored i gynnig cyfle dysgu drwy brofiad i bawb, gan gynnwys y rhai heb gymaint o ddiddordeb mewn byd natur a’r amgylchedd.<\/p>\n

Mae hyn yn arwain at yr ail bwynt sy’n rheswm dros ddathlu. Yn y strategaeth, mae ymrwymiad gan yr Adran Addysg i ymgysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar ymchwil pellach i sut gellir darparu dysgu awyr agored i gael yr effaith fwyaf. Byddem wrth ein bodd yn gweld y cydweithredu hwn yn cael ei ymestyn i\u2019r GIG hefyd \u2013 oherwydd rydym wedi gweld bod amser a dreulir yn yr awyr agored yn gwella iechyd meddwl, sy\u2019n faich allweddol a chynyddol i\u2019r gwasanaeth iechyd. Mae hefyd addewid i ddefnyddio ac asesu dyluniad ystafelloedd dosbarth sy\u2019n seiliedig ar natur i fanteisio i\u2019r eithaf ar fynediad i\u2019r awyr agored a chyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, fel bod adeiladau addysg yn effeithio\u2019n gadarnhaol ar les corfforol a meddyliol myfyrwyr. Mae hyn yn wych i\u2019w weld, gan ei fod yn ymateb i bobl ifanc yn Our Bright Future sydd wedi mynnu hyn ers tro, fel y dangosir yn <\/strong>ein llythyr at y Pwyllgor Dethol ar Addysg<\/strong><\/a> yn gofyn am ymchwiliad i werth dysgu yn yr awyr agored.<\/strong><\/p>\n

Drwy Our Bright Future, rydym wedi gweld a chofnodi\u2019r manteision niferus sy\u2019n deillio o ddysgu yn yr awyr agored a chysylltu \u00e2 byd natur. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi papur dysgu gwerthuso ar y manteision i iechyd meddwl a lles wrth i bobl ifanc ymgysylltu \u00e2\u2019r amgylchedd.<\/p>\n

Yn \u00f4l prosiect ymchwil pedair blynedd diweddar gan Natural England, profwyd bod amser sy\u2019n cael ei dreulio yn yr awyr agored a dysgu am fyd natur yn lleihau gorbryder, iselder, straen a phroblemau ymddygiad. Roedd y canfyddiadau hefyd yn tynnu sylw at y budd i athrawon, gyda 79 y cant yn adrodd am effeithiau cadarnhaol ar eu harfer addysgu, a 72 y cant yn adrodd am well iechyd a lles.<\/p>\n

Yn ogystal, yn \u00f4l ymchwil diweddar a gomisiynwyd gan Lywodraeth yr Alban, mae tystiolaeth gynyddol gref y gall profiadau ym myd natur roi hwb i ddysgu academaidd, hyd yn oed mewn meysydd pwnc nad ydynt yn gysylltiedig \u00e2\u2019r lleoliad awyr agored.<\/p>\n

Gan fod y llu o fanteision sydd i\u2019w cael o ddysgu yn yr awyr agored wedi bod yn glir ers blynyddoedd, rydym yn\"\" croesawu\u2019r ffaith bod ffocws y strategaeth bellach yn symud at sut i ddarparu cyfleoedd dysgu awyr agored yn well,<\/strong> gan adeiladu ar fentrau llwyddiannus fel Ysgolion Cyfeillgar i Natur<\/a><\/strong>, i ddatgloi eu llawn botensial ac ymgorffori\u2019r rhain yng nghwricwlwm ysgolion prif ffrwd. Byddai hyn yn helpu i nodi unrhyw rwystrau sy’n atal plant rhag cysylltu \u00e2 byd natur yn ystod amser ysgol.<\/p>\n

Mae gan y DU y potensial i arwain ar addysg hinsawdd a chynaliadwyedd, ac mae arwyddion cadarnhaol yn y strategaeth newydd yn pwyntio i\u2019r cyfeiriad cywir. Edrychwn ymlaen yn awr at y camau gweithredu y bydd eu hangen i ddilyn y strategaeth. Bydd cynnwys plant a phobl ifanc wrth gynllunio a chyflawni\u2019r camau nesaf yn allweddol i lwyddo.[\/vc_column_text][\/vc_column][\/vc_row]<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"

[vc_row][vc_column][vc_column_text] Ar 21 Ebrill, lansiodd yr Adran Addysg (DfE) y strategaeth Hinsawdd a Chynaliadwyedd newydd. Roedd gwir angen ffocws cadarnach ar r\u00f4l addysg wrth baratoi\u2019r cenedlaethau nesaf i fyw ac ymdrin \u00e2\u2019r argyfyngau amgylcheddol, iechyd a hinsawdd sy\u2019n cydblethu. Felly, rydym yn croesawu lansiad y strategaeth. Mae\u2019n wych gweld bod gwerth cysylltiad pobl ifanc \u00e2\u2019u […]<\/p>\n","protected":false},"author":65,"featured_media":9984,"comment_status":"closed","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":[],"categories":[44],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9992"}],"collection":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/65"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=9992"}],"version-history":[{"count":6,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9992\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":10184,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/9992\/revisions\/10184"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/9984"}],"wp:attachment":[{"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=9992"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=9992"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"http:\/\/oeof.bsb\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=9992"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}