Roedd Our Bright Future yn bartneriaeth uchelgeisiol ac arloesol a arweiniwyd gan yr Ymddiriedolaethau Natur. Daeth â’r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd. Roedd yn weithredol rhwng 2016 a diwedd 2022. Cyllidwyd y rhaglen gwerth £33 miliwn yma gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Roedd wedi’i ffurfio o 31 o brosiectau ar draws y DU. Roedd pob prosiect yn helpu pobl ifanc 11 i 24 oed i feithrin sgiliau a phrofiad hanfodol a gwella eu lles.
Roedd y prosiectau’n amrywiol iawn ac yn mynd i’r afael â’r materion a’r heriau niferus mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Roedd un thema a ddaeth â’r prosiectau at ei gilydd: y ffocws ar bobl ifanc a’r amgylchedd.
Datblygodd y bobl ifanc wybodaeth, sgiliau, gwytnwch a hyder a gwella eu cyflogadwyedd.
Creodd y bobl ifanc 355 o fannau cymunedol neu fywyd gwyllt. Buont yn meithrin gerddi a pherllannau ac yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt.
Arweiniodd y gwelliannau i fannau cymunedol at well cydlyniant cymunedol, gwell canfyddiadau o bobl ifanc a mwy o fwynhad o fannau naturiol.
Dechreuodd y bobl ifanc 203 o fentrau.
Mae Our Bright Future wedi gwella’r amgylchedd a bywydau pobl ifanc.