Mae Our Bright Future wedi grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion medrus a chyfranogol.
Buom yn gweithio gyda phobl ifanc dalentog o gefndiroedd amrywiol. Roedd rhai yn dod o gymunedau ar y cyrion, roedd gan rai anabledd ac roedd rhai mewn perygl o fod yn ddigartref. Roedd gan yr holl bobl ifanc a gymerodd ran yn Our Bright Future un peth yn gyffredin: eu parodrwydd i dorchi eu llewys a gwella eu bywyd eu hunain a hefyd creu newid cadarnhaol i’r amgylchedd.
Nid yn unig y cafodd bywydau ifanc eu gwella ond daeth cymunedau lleol yn fwy cydlynol a bywiog. Yn ogystal, daeth amgylcheddau lleol yn gyfoethocach o ran bywyd gwyllt ac yn wytnach.
Yn ogystal, daeth y 31 o brosiectau at ei gilydd wyneb yn wyneb neu ar-lein, i ddysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu arfer gorau. Fe wnaeth y model unigryw yma o Rannu Dysgu Gwella helpu i gryfhau pob prosiect ac arwain at effaith fwy ledled y DU. Gallwch gael gwybod mwy am yr ethos gweithio mewn partneriaeth yma yn ein canllaw arfer da Tyfu Gyda’n Gilydd.
Casglwyd tystiolaeth gadarn gennym ni am y ffordd rydyn ni’n cefnogi datblygiad ein hamgylchedd a phobl ifanc. Nod ein hadroddiadau gwerthuso yw rhannu’r hyn a ddysgwyd ar gyfer llunwyr polisïau a sefydliadau sy’n cyflwyno prosiectau ar gyfer pobl ifanc a’r amgylchedd. Fe wnaethom hefyd greu llawer iawn o adnoddau a chanllawiau arfer da – sydd ar gael yma i gyd.
Mae Our Bright Future yn dod â’r sectorau ieuenctid a’r amgylchedd at ei gilydd ar draws y Deyrnas Unedig. Fe wnaethom ddatblygu perthnasoedd rhwng sefydliadau a dangos sut mae cyflawni gweithio traws-sector.
“Y pwynt gwerthu unigryw mwyaf arbennig ar gyfer y rhaglen yma yw’r cysylltiad rhwng sector yr amgylchedd a’r sector ieuenctid. Mae’r meysydd hyn [wedi bod] yn dod at ei gilydd i gyflwyno prosiect mewn llawer o wahanol ffyrdd. [Rydw i’n] meddwl bod hynny’n rhywbeth y dylen ni bob amser geisio ei gadw gyda’i gilydd, y rhwydwaith rydyn ni wedi’i greu rhwng y ddau. Mae gan y sector ieuenctid brinder adnoddau felly os gall y ddau faes gydweithio, fe fyddai hynny o fudd.” Rhanddeiliad mewnol

 

Hyd yma, mae’r rhaglen wedi denu mwy na 128,495 o bobl ifanc.
Mae pobl ifanc wedi ennill mwy na 8,674 o gymwysterau fel e.e. OCN, NVQ, John Muir, Dyfarniad DofE, AQA.
Mae mwy na 1,627 o bobl ifanc wedi cael interniaethau, profiad gwaith, lleoliadau gwaith neu brentisiaethau.
Mae bron i 203 o bobl ifanc wedi dechrau ar brosiectau entrepreneuraidd fel rhan o’r rhaglen.
Mae mwy na 3,400 o lefydd wedi cael eu creu neu eu gwella, fel parciau, perllannau cymunedol a gwarchodfeydd natur.