Mae bod yn gysylltiedig â byd natur yn gwella iechyd corfforol, lles a dysgu mewn pobl ifanc. Gall treulio amser yn yr awyr agored ein helpu ni i fod yn fwy egnïol a chanolbwyntio’n well, gan ysgogi syniadau newydd a helpu pobl ifanc i ddefnyddio eu dysgu mewn sefyllfaoedd real.
Drwy fwynhau gweithgareddau awyr agored gydag eraill, gall pobl ifanc wella eu sgiliau cyfathrebu a’u hyder drwy dasgau a rennir, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w hamgylchedd a’r byd naturiol.
O ran lles, gall yr awyr agored gynnig gofod i brosesu profiadau anodd, a gweithredu fel seibiant o lefydd prysur.
Cliciwch yma am y dystiolaeth y tu ôl i fanteision dysgu ym myd natur ac amdano. Gallwch hefyd ddarllen mwy am fanteision bod yn yr awyr agored a’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu am ymgysylltu â phobl ifanc yn yr awyr agored yn ein papurau dysgu 2 a 4.
Fe wnaeth rhai prosiectau uwchsgilio athrawon ac addysgwyr eraill mewn dysgu yn yr awyr agored, yn ogystal â meithrin eu hyder a newid agweddau ynghylch y math yma o ddarpariaeth.
“Fe gynhaliodd y prosiect gyrsiau ar gyfer athrawon i’w helpu i ennill yr hyder i fynd â’u haddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned.” Rheolwr Prosiect
Adnoddau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
Mae Ulster Wildlife, sy’n sefydliad gwych, wedi creu rhai fideos defnyddiol am ddysgu yn yr awyr agored fel rhan o’i ymgyrch #LearnMoreOutdoors. Mae cyngor am gynllunio gwersi awyr agored, a syniadau ar gyfer sut gellir ymgorffori natur mewn gwahanol bynciau, i’w gweld isod.
Mwy o wybodaeth am y ceisiadau eraill: