Mae prosiectau Our Bright Future wedi dangos bod cael profiad gwaith yn y sector amgylcheddol yn arwain at fanteision niferus i bobl ifanc
  • cyflogadwyedd
  • ymgysylltu â byd natur
  • datblygiad personol
  • iechyd a lles
Ar hyn o bryd, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau i gyflogaeth yn y sector amgylcheddol oherwydd lefel y profiad, neu gymwysterau ffurfiol, a ddisgwylir ar gyfer llawer o swyddi. Mae angen mwy o swyddi lefel mynediad ar gyfer pobl ifanc sydd newydd ddechrau yn y sector, yn ogystal â chefnogaeth i’w helpu i chwilio am y cyfleoedd yma a chael mynediad iddynt.
Rydyn ni wedi cynnal ymchwil i ddangos yr effaith gadarnhaol y mae cynlluniau swyddi yn y sector amgylcheddol yn ei chael ar fywydau pobl ifanc. Gallwch ddarllen ein hadroddiad llawn yma, neu grynodeb byrrach yma.
Beth yw gyrfaoedd amgylcheddol?
Pan fyddwch chi’n meddwl am yrfaoedd yn y sector amgylcheddol, efallai mai gwaith cadwraeth ymarferol yw’r darlun sy’n dod i’ch meddwl chi – ond mae amrywiaeth eang o swyddi! Yn ein digwyddiad Gyrfaoedd Amgylcheddol: Holi ac Ateb i Bobl Ifanc fe wnaethon ni gynnwys siaradwyr ifanc o amrywiaeth o swyddogaethau – gan gynnwys Swyddog Cyfathrebu, Swyddog Llygredd Morol ac Uwch Swyddog Seneddol – gan dynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael. Gwyliwch y recordiad o’r digwyddiad isod.
Ydych chi’n adnabod rhywun sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector amgylcheddol? Neu ydych chi’n berson ifanc sydd eisiau dechrau ar y siwrnai yma? Edrychwch ar rai o’r dolenni defnyddiol isod i ddechrau:
  • Pecyn Adnoddau Gyrfaoedd Amgylcheddol Belfast Hills: adnodd digidol gwych sy’n cynnwys bywgraffiadau o wahanol yrfaoedd amgylcheddol, awgrymiadau ar gyfer gwneud cais am swyddi a Chwestiynau Cyffredin
  • Llyfryn gyrfaoedd Ymddiriedolaeth Natur Sir Amwythig: Yn cynnwys astudiaethau achos o fywyd real a gofynion rôl manwl. Mae Gyrfa yn yr Amgylchedd yn ganllaw gwych i bobl ifanc sy’n ystyried gyrfa yn y sector amgylcheddol
  • Adnodd Green Employability sydd wedi’i gynhyrchu gan YouthLink Scotland, ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid i’w cefnogi i ystyried beth yw swydd werdd, a pha sgiliau trosglwyddadwy y gall pobl ifanc eu datblygu i’w gwneud yn fwy cyflogadwy yn y sector hinsawdd

Mwy o wybodaeth am y ceisiadau eraill: