Os oes gennych chi gŵyn, siaradwch ag aelod o dîm Our Bright Future, a fydd yn barod iawn i helpu. Os yw’n well gennych chi gyflwyno eich cŵyn yn ysgrifenedig, anfonwch e-bost atom ar ourbrightfuture@wildlifetrusts.org 
Byddwn yn cydnabod unrhyw gŵyn ysgrifenedig o fewn dau ddiwrnod gwaith, ac yn ceisio ymateb i’r gŵyn ei hun o fewn pythefnos. Os nad ydych yn fodlon gyda chanfyddiadau eich cŵyn wreiddiol, cewch ysgrifennu at Reolwr Rhaglenni Our Bright Future gan nodi’r rhesymau pam rydych yn anfodlon gyda’r canlyniad cychwynnol ac i ddweud eich bod eisiau mynd â’r mater ymhellach. Ar ôl derbyn yr ymateb ysgrifenedig, bydd Rheolwr Rhaglenni Our Bright Future yn adolygu’r gŵyn wreiddiol a’i chanfyddiadau ac yn gwneud penderfyniad ar ôl pwyso a mesur popeth. Ar ôl adolygu’r manylion, bydd Rheolwr Rhaglenni Our Bright Future yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.                       
Os ydych chi dal yn anfodlon â’r canlyniad, cewch ysgrifennu at y Pennaeth Grantiau, a fydd yn adolygu’r gŵyn yn gwbl ddiduedd, gan gysylltu os yw hynny’n briodol ag uwch staff perthnasol yn yr Ymddiriedolaethau Natur, y Grŵp Llywio a/neu’r Gronfa Loteri Fawr.
Byddwn yn ceisio datrys pob cŵyn o’r dechrau a sicrhau nad oes unrhyw gamgymeriadau’n cael eu hailadrodd.
Byddwn yn cadw pob cŵyn, sylw ac awgrym ar ffeil er mwyn gallu defnyddio eich adborth i fonitro a gwerthuso ein gwasanaeth a nodi unrhyw newidiadau neu welliannau sydd angen eu gwneud.