Dylai pobl ifanc, ac maen nhw eisiau, gallu lleisio eu barn am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw ac a fydd yn effeithio arnyn nhw yn y dyfodol. Dylent deimlo eu bod yn gallu gwneud hyn mewn ffordd hygyrch sy’n gynhwysol i bawb.
“Does dim byd amdanon ni, hebddon ni, i ni”. Lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud am bethau a fydd yn effeithio ar bobl ifanc, rhaid i bobl ifanc gael eu cynnwys yn y broses honno.
Gwneud i leisiau ifanc gael eu clywed
Os yw eich sefydliad chi’n edrych ar gynnwys pobl ifanc mewn llywodraethu sefydliadol, darllenwch ein Canllaw Arfer Da a gwyliwch y recordiad o’n digwyddiad Rhannu Dysgu Gwella ar Sefydlu Fforwm Ieuenctid. Mae’r Young Trustees Movement yn darparu gwybodaeth, adnoddau a hyfforddiant i sefydliadau a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn llywodraethu ieuenctid. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar eu gwefan.
“Mae Our Bright Future wedi bod yn ddylanwadol wrth ein helpu ni i ddatblygu ein strategaeth a’n dull ni ein hunain o ddatblygu ieuenctid. Mae wedi bod yn arbennig o fuddiol wrth ddatblygu ein Cynllun Ieuenctid newydd ar gyfer 2021-2023; rydyn ni wedi ystyried yr hyn sydd wedi’i ddysgu o’r rhaglen. Ymhellach, mae’r adnoddau’n parhau i fod yn bwynt cyfeirio gwych ar gyfer ein gwaith.” – Rheolwr Ieuenctid yn yr RSPB. Emily Lomax, Rheolwr Ieuenctid yn yr RSPB
Mae llawer o enghreifftiau gwych o lwyddiannau Cais 3 ar draws Our Bright Future, gan gynnwys y canlynol:
  • Mae gan Gyfeillion y Ddaear, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Sir Efrog a llawer o sefydliadau eraill sy’n ymwneud ag Our Bright Future ymddiriedolwyr ifanc bellach. Darllenwch am brofiad Ellie o ddod yn Ymddiriedolwr Ifanc cyntaf Ymddiriedolaeth Mileniwm Cymoedd Sir Efrog.
  • Gyda chefnogaeth ein contractwr polisi YouthLink Scotland, fe gynhaliodd ymgyrchwyr ifanc hystings gydag arweinwyr y pum prif blaid wleidyddol yn yr Alban cyn etholiadau datganoledig 2021. Gwyliwch y digwyddiad Climate Hot Seat.
  • Fe gyfarfu pobl ifanc o brosiectau Our Bright Future yng Nghymru â Gweinidog yr Amgylchedd Leslie Griffiths a thrafod materion allweddol sydd o bwys iddyn nhw, gan gynnwys tri chais Our Bright Future. Siaradodd Siôn o’r Rhaglen Arweinyddiaeth Amgylchedol yn lansiad Cymru o’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel
  • Fe wnaethon ni gyflwyno cyfres o weminarau gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, a’r penllanw oedd y digwyddiad Uwchgynhadledd Llais Ieuenctid: Ailfeddwl am Ddŵr.  Fe roddodd y digwyddiadau yma gyfle i bobl ifanc gyfrannu at ymgynghoriad ar yr amgylchedd dŵr, lleisio eu barn ar waith a blaenoriaethau Asiantaeth yr Amgylchedd, a rhannu eu barn am sut gallai ymgysylltu’n well â phobl ifanc.
  • Cefnogwyd Our Bright Future gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i sefydlu grŵp llywio pobl ifanc (Pobl Ifanc yn Arwain) drwy ddarparu tystiolaeth, dysgu ac awgrymiadau ymarferol. Creodd y Gronfa swydd newydd hefyd – Pennaeth Llais Ieuenctid – a weithiodd yn agos gydag Our Bright Future.
Mwy o wybodaeth am ein Ceisiadau eraill: