Bob mis mae cylchlythyr e-bost Our Bright Future yn cynnwys cyfleoedd, a’r newyddion diweddaraf am ein raglenni ag o’r sector. Cliciwch yma i gofrestru i’w dderbyn os nad ydych chi wedi yn barod.
7 Shropshire Wildlife Trust 28
Pobl ifanc eisiau dysgu ym myd natur ac amdano!
Lansiwyd e-weithredu dysgu gyda natur Our Bright Future ym mis Rhagfyr 2021 ac rydym angen eich help chi i rannu’r cais pwysig yma mor bell ac agos â phosibl! Nod yr ymgyrch yw ymgorffori dysgu ym myd natur ac amdano ar gyfer pob oedran ar draws y cwricwlwm. Drwy’r rhaglen Our Bright Future, mae miloedd o bobl ifanc wedi bod yn gofyn i newidiadau gael eu gwneud ym mhob un o’n hysgolion a’n lleoliadau addysg ni, fel bod dysgu ym myd natur ac amdano, a newid yn yr hinsawdd, yn digwydd bob dydd. Mae pobl ifanc yn gwybod am y manteision y gallant eu cael o dreulio amser yn yr awyr agored, gan gynnwys rhoi hwb i hyder, sgiliau a lles, a dyma un o’r rhesymau niferus pam mae’r gweithredu yma mor bwysig iddynt. Gallwch gefnogi eu cais am dreulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano drwy ychwanegu eich enw at yr e-weithredu hollbwysig hwn yma.
11 Ulster Wildlife (2)
Prosiect Wild Youth
Ifanc, gwyllt ac iach, dyna’r llinell frand ar gyfer menter 4 blynedd newydd a fydd yn dechrau yn Belfast ym mis Ionawr 2022. Gyda’r enw Wild Youth, mae’r rhaglen hon wedi cael ei datblygu drwy bartneriaeth rhwng y Belfast Hills Partnership ac Ulster Wildlife. Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn cwblhau eu gwaith ymgysylltu â phobl ifanc eu hunain a gefnogir drwy Our Bright Future.
Cynhaliwyd ymarferion ymgynghori gyda phobl ifanc i gael gwybod beth oedd eu hanghenion a’u syniadau ar gyfer prosiect newydd. Wedyn gwnaed cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Ngogledd Iwerddon o dan eu rhaglen Grymuso Pobl Ifanc. Cyfwelwyd pobl ifanc o’r ddau sefydliad partner gan staff Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel rhan o’r broses asesu. Mae’r gwaith wedi dechrau eisoes ar recriwtio pobl ifanc i fod yn aelodau o’r grŵp llywio ar gyfer y prosiect.
Unwaith y bydd y prosiect wedi dechrau, bydd yn cyflwyno sesiynau lles Gwyllt gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid yn ardal Bryniau Belfast. Bydd cymunedau difreintiedig ledled Gogledd a Gorllewin Belfast yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cyfranogiad.
Dyma’r waddol perffaith i raglen Our Bright Future yng Ngogledd Iwerddon, gan sicrhau y bydd pobl ifanc yn parhau i gymryd rhan mewn gwaith ieuenctid amgylcheddol pwerus a thrawsnewidiol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
environmental trusteeship event (1)
Pam mai dim ond 0.5% o ymddiriedolwyr y DU sy’n bobl ifanc 18 i 24 oed? Gadewch i ni newid hyn!
Oedran cyfartalog ymddiriedolwr yn y DU yw 59 oed gyda llai na 0.5% o’r ymddiriedolwyr cyfredol rhwng 18 a 24 oed. Er gwaethaf hyn, pan gynhaliwyd arolwg dywedodd 85% o bobl dan 35 oed y byddent yn ystyried bod yn ymddiriedolwr. Nawr, mae Our Bright Future a Mudiad yr Ymddiriedolwyr Ifanc yn dweud ei bod hi’n amser am newid!
Mae gwahoddiad i bobl ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn ymddiriedolwyr yn y sector amgylcheddol, neu sydd eisiau cael gwybod mwy, fynychu digwyddiad ar-lein gyda’r nod o oresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu. Bydd Our Bright Future a Mudiad yr Ymddiriedolwyr Ifanc yn cynnal y digwyddiad awr o hyd nos Fawrth, 19 Hydref, gan ddechrau am 6.30pm.
Bydd pedwar ymddiriedolwr ifanc yn siarad am eu profiadau, yn rhannu arfer da ac yn chwalu rhai o’r mythau ynghylch bod yn ymddiriedolwr mewn ymgais i ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc eraill i wneud yr un peth. Y siaradwyr:
  • Mae Jeanna Malhi yn ymddiriedolwr gyda Chyfeillion y Ddaear.
  • Mae Jack White yn ymddiriedolwr gyda Groundwork UK.
  • Mae Nina Vinther yn ymddiriedolwr gydag Earthworks St Albans ac mae hefyd yn aelod o Grŵp Cynaliadwyedd Mudiad yr Ymddiriedolwyr Ifanc.
  • Mae Elliott Lancaster yn ymddiriedolwr gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Stafford ac eleni enillodd Wobr Ymddiriedolwr y Flwyddyn Support Staffordshire.
I ymuno â’r digwyddiad ewch i.
8 CSE (5)
Dathlu Llais Ieuenctid ar Ddiwrnod Rhyngwladol Ieuenctid
Trydydd Cais Polisi Our Bright Future yw i ‘bobl ifanc gael eu clywed a chwarae rhan weithredol mewn cymdeithas’ felly rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid 2021 trwy dynnu sylw at rai newidiadau a wnaed gan bartneriaid a phrosiectau i gynyddu llais ieuenctid.
Gall cael pobl ifanc i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau sefydliadau gael effaith gadarnhaol: mae pobl ifanc yn cyflwyno syniadau newydd, mae ganddynt wahanol flaenoriaethau ac maent yn cynnig persbectif gwahanol.
O ganlyniad uniongyrchol i fod yn rhan o Our Bright Future, mae gan un ar ddeg sefydliad bellach fforymau ieuenctid, cynghorau ieuenctid, aelodau ifanc o grwpiau llywio neu aelodau bwrdd ifanc.
Mae pobl ifanc wedi bod mewn prosesau cyfweld staff mewn o leiaf bedwar sefydliad gwahanol – gan gynnwys recriwtio Prif Weithredwyr yr Ymddiriedolaethau Natur a Chyfeillion y Ddaear.
O ganlyniad i’r gwaith gydag Ymddiriedolaeth Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog, mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymoedd Swydd Efrog ddau le bellach ar ei Grŵp Llywio Rheoli Parciau Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc.
Ac nid dyna’r diwedd! Ar hyn o bryd mae o leiaf bedwar sefydliad ym mhortffolio Our Bright Future yn bwriadu gwneud newidiadau i gynyddu llais eu hieuenctid ac rydym yn disgwyl i’r nifer yma barhau i dyfu.
Seminar flynyddol Our Bright Future 2021
Cynhaliwyd Seminar Flynyddol olaf Our Bright Future ar 23 a 24 Mehefin 2021 ac roeddent yn ddeuddydd gwych! Yn addysgiadol ac yn ysbrydoledig ond yn llawn tristwch gan mai hwn oedd y digwyddiad olaf. Gyda rhaglen Our Bright Future yn symud yn gyflym iawn tuag at ei therfyn, canolbwyntiodd y seminar olaf ar waddol, effaith a chynaliadwyedd drwy glywed gan gynrychiolwyr ifanc a brwdfrydig y grŵp llywio am y pethau anhygoel mae Our Bright Future wedi’u cyflawni yn ystod y 12 mis diwethaf. Dilynwyd hyn gan astudiaeth ysgogol o sut gallai prosiectau a sefydliadau gefnogi ac ymgorffori’r tri chais polisi. Wedyn tynnodd aelodau’r fforwm ieuenctid sylw at sut roedd cymryd rhan yn Our Bright Future wedi gwneud gwahaniaeth iddynt cyn i ni ddod â’r diwrnod cyntaf i ben yn dysgu am ymgyrch llysgennad brand newydd, gyffrous Our Bright Future a sut i gymryd rhan. Dechreuodd diwrnod dau gyda sesiwn werthuso ryngweithiol yn cofnodi’r gwersi a ddysgwyd ac wedyn dathlu effeithiau’r prosiect. I gloi’r digwyddiad, rhoddwyd sylw i waddol a chynaliadwyedd gyda sawl prosiect yn tynnu sylw at sut roedd Our Bright Future wedi dylanwadu ar newid mewn arferion sefydliadol.
Welsh Ask 1 graphic
Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol gyda’r nod o gynyddu’r amser a dreulir yn dysgu ym myd natur ac amdano      

 

Yn ddiweddar, cynhaliodd ein Heiriolwyr Ifanc yng Ngogledd Iwerddon ymgyrch cyfryngau cymdeithasol o’r enw Learn More Outdoors, gan gysylltu â Chais 1 Our Bright Future.
Nod yr ymgyrch oedd annog athrawon i fynd â’u gwersi y tu allan i’r ystafell ddosbarth draddodiadol a threulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano, yn enwedig wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i’r ysgol ar ôl y pandemig.
Fel rhan o’r ymgyrch, cynhyrchwyd chwe fideo yn rhoi sylw i fanteision dysgu yn yr awyr agored, goresgyn rhwystrau, ac awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored ar draws ystod o bynciau. Rhannwyd y rhain drwy’r cyfryngau cymdeithasol ynghyd â chyfres o negeseuon barn a llawn gwybodaeth gan y bobl ifanc dan sylw. Mae’r fideos i’w gweld ar ein tudalen ni am Gais 1.
Yn dilyn yr ymgyrch, cafodd y bobl ifanc gyfle i gyfarfod â Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, Peter Weir. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol dros ben, gan drafod yn fanwl bwysigrwydd ac effaith gadarnhaol dysgu yn yr awyr agored i fyfyrwyr oedran ysgol ac edrych ar hyblygrwydd cwricwlwm Gogledd Iwerddon a’r cyfleoedd mae hyn yn eu gwneud yn bosibl.
Rhoddwyd cyfle hefyd i’r bobl ifanc rannu canllawiau ar ddysgu yn yr awyr agored drwy wefan yr Awdurdod Addysg.  Wrth i ysgolion ddechrau tymor yr Haf mae’n amser perffaith i barhau i hyrwyddo cyfleoedd awyr agored i athrawon.
Welsh Ask 2 graphic
Gyrfaoedd Amgylcheddol:
Sesiwn Holi ac Ateb Pobl Ifanc – recordiad ac adnoddau
Roedd 2020 yn flwyddyn o heriau, o newidiadau i’r ffordd y mae cynifer ohonom yn gweithio ac yn astudio, ac, yn aml, o ddigwyddiadau’n cael eu canslo. Wrth i ni i gyd deimlo effeithiau’r cyfyngiadau symud, daeth hefyd yn gliriach nag erioed bod siwrneiau pobl ifanc i gyflogaeth yn aml yn anodd, yn enwedig wrth chwilio am gyfleoedd yn y sector amgylcheddol. Am yr holl resymau hyn, roedd yn bleser mawr gan Our Bright Future allu dod â’r flwyddyn i ben gyda digwyddiad cyffrous am yrfaoedd yn y sectorau amgylcheddol, cadwraeth a chynaliadwyedd. Wedi’i drefnu mewn cydweithrediad â’r RSPB, Groundwork UK, a’r National Youth Agency, roedd ‘Gyrfaoedd Amgylcheddol: Sesiwn Holi ac Ateb Pobl Ifanc’ yn cynnwys panel o weithwyr proffesiynol ifanc, cyngor doeth gan arbenigwyr gyrfa, a sylw arbennig i fenter y National Nature Service.
Mae recordiad o’r digwyddiad ar gael i’w wylio ar ein sianel YouTube, a gallwch hefyd ddod o hyd i ddolenni at yr adnoddau a’r cyfleoedd amrywiol a grybwyllwyd yn ystod y sesiwn yn y daflen ar ôl y digwyddiad.
31 NUS (7)
Cofrestru i gael cylchlythyr
I gael clywed am yr holl gyfleoedd a’r newyddion diweddaraf gan Our Bright Future cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr misol ar e-bost. Cofiwch ddilyn ein sianelau ni ar Facebook, Twitter, Instagram ac YouTube hefyd am ddiweddariadau rheolaidd.
Our Bright Future
Cynnwys pobl ifanc mewn llywodraethu 
Oeddech chi’n gwybod bod pobl ifanc 18 i 24 oed yn llai na 0.5% o holl Ymddiriedolwyr elusennau, ac mai oedran Ymddiriedolwr yng Nghymru a Lloegr ar gyfartaledd yw 59 oed? Er gwaetha’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud, mae gan y sector elusennol lawer o waith i’w wneud eto! Mae dyhead i dderbyn y rôl yn sicr, gydag arolwg ar ieuenctid dan 35 oed yn dangos y byddai 85% yn ystyried bod yn Ymddiriedolwr. Darllenwch yr erthygl lawn yn CJS Focus yma (tri chwarter y ffordd i lawr). 
CSE
Adroddiad newydd yn dangos sut mae natur yn meithrin plant 
Comisiynodd yr Ymddiriedolaethau Natur astudiaeth gan y Sefydliad Addysg yn UCL i werthuso effaith profiad o fyd natur ar blant. Yn gyffredinol, datgelodd yr ymchwil bod lles plant yn gwella ar ôl treulio amser yn cysylltu â byd natur: dangosodd y plant gynnydd mewn lles ac iechyd personol dros amser a hefyd cynnydd yn eu cysylltiad â natur, yn ogystal â lefelau uchel o fwynhad. Darllenwch fwy yma.
Belfast Hills Partnership
Mae un o raglenni amgylcheddol mwyaf y DU sy’n cael ei harwain gan ieuenctid yn galw ar bobl ifanc i gymryd rhan mewn Diwrnod Dosbarth Awyr Agored ddydd Iau yma
Mae Our Bright Future, partneriaeth o 31 o brosiectau ledled y DU, yn galw ar bobl ifanc i dreulio awr o’u diwrnod ysgol allan yn yr awyr agored ddydd Iau yma, er mwyn gwella lles ac ymwneud â byd natur. 
Our Bright Future
Y mudiad ieuenctid amgylcheddol gorau i chi glywed amdano erioed
Tu ôl i ymgyrch enfawr Greta Thunberg sydd wedi hawlio’r penawdau – #YouthStrike4Climate – a’r protestiadau Gwrthryfel Difodiant, mae mudiad ieuenctid amgylcheddol ar lawr gwlad yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi hwb i botensial pobl ifanc. Mae bron i 100,000 o bobl ifanc angerddol, medrus ac ymwybodol yn amgylcheddol yn arwain y ffordd at ddyfodol gwell drwy Our Bright Future, rhaglen sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Time Out London screenshot
Sylw i Our Bright Future yn Time Out London: rhifyn 3 Medi
Yn dilyn lansiad Cronfa Gweithredu’r Hinsawdd y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar, mae Time Out London wedi cyhoeddi erthygl am aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future; Ummi Hoque. Cyflwynodd araith yn nigwyddiad y lansiad am ei hymwneud â phrosiect  Our Bright Future; My World My Home gan ein hysbrydoli ni i gyd! Os ydych chi yn Llundain heddiw (3 Medi) cofiwch gael copi o orsafoedd yn Ardaloedd 1 a 2 a throi i dudalen 14. Fel dewis arall, gallwch ddarllen yr erthygl yma