Cafodd Our Bright Future ei weithredu gan bartneriaeth o wyth sefydliad, dan arweiniad Yr Ymddiriedolaethau Natur.
Ein sefydliadau partner oedd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol, y Ganolfan ar gyfer Ynni Cynaliadwy, y Gwirfoddolwyr Cadwraeth, y Cyngor Astudiaethau Maes, Ymddiriedolaeth y Mileniwm Cymoedd Swydd Efrog, Cyfeillion y Ddaear ac UpRising.
Roedd gan y bartneriaeth dros 40 mlynedd o brofiad mewn rheoli rhaglenni grant cymdeithasol ac amgylcheddol. Roedd ganddi enw da iawn am rymuso pobl ifanc.
200x200 pixel consortium logos for the website
200x200 pixel consortium logos for the website2
200x200 pixel consortium logos for the website3
200x200 pixel consortium logos for the website4
200x200 pixel consortium logos for the website5
200x200 pixel consortium logos for the website6
200x200 pixel consortium logos for the website8
NYA
Grŵp Llywio
Roedd y Grŵp Llywio’n gyfrifol am gefnogi’r Ymddiriedolaethau Natur i gyflawni amcanion y rhaglen, gan sicrhau’r effaith orau i’r rhaglen a sicrhau gwaddol.
Goruchwyliodd y Grŵp Llywio ddatblygiad a rheolaeth Our Bright Future. Roedd hyn yn cynnwys:
  • hyrwyddo ymgysylltu a chyfranogiad ehangach mewn gwneud penderfyniadau ar bob lefel gan bobl ifanc
  • sicrhau rhannu arfer gorau yn effeithiol
  • rheoli risg
  • goruchwylio perfformiad strategol y rhaglen
Roedd y Grŵp Llywio yn cynnwys uwch aelodau o staff yr wyth sefydliad partner, pobl ifanc a chynrychiolwyr o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Panel Gwerthuso
Bu’r Panel Gwerthuso yn rheoli gwaith ymchwil a gwerthuso rhaglen Our Bright Future.
Dyma gylch gorchwyl y Panel Gwerthuso:
  • gweithio gyda’r tîm i sicrhau bod yr amcanion gwerthuso’n cael eu cyflawni
  • rhoi sylwadau a thrafod yr adroddiadau gan y gwerthuswyr
  • rhoi sylwadau a chyngor ar yr adroddiadau gwerthuso cyn iddynt gael eu cyhoeddi
Roedd y Panel Gwerthuso yn cynnwys pobl ifanc, staff ag arbenigedd gwerthuso o sefydliadau partner a phrosiectau a chynrychiolwyr o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.