Mae yna ddigon o ffyrdd i gymryd rhan gydag Our Bright Future. Mae llawer o’r prosiectau’n gweithredu ar lefel leol, er bod rhai ar gael ledled y wlad. Cysylltwch â’r tîm os oes gennych ddiddordeb mewn prosiect penodol a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad ag arweinydd perthnasol y prosiect.
Helpu i fapio adferiad natur
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn creu map o ardaloedd ledled y DU lle mae pobl eisiau gweld natur yn adfer, ac maen nhw angen eich help chi! Ydych chi’n gwybod am le gwyrdd yn eich ardal chi a allai ddarparu cartref i fywyd gwyllt, helpu i amsugno carbon, neu hyd yn oed helpu i amddiffyn eich cymuned rhag tywydd eithafol fel llifogydd? Drwy ychwanegu lleoliad at y map, gallwch ein helpu i ddangos y cyfoeth o safleoedd gwerthfawr ar draws y DU – llefydd a allai un diwrnod elwa o warchodaeth i fyd natur. Rhowch bin ar y map i dynnu sylw at safle yn agos atoch chi, yma.
3 Belfast Hills Partnership (45)