Cymunedau a ffordd o fyw
Mae ein cymunedau lleol yn datblygu i fod yn fwy a mwy gwasgarog. Mae ein seilwaith lleol a’r llefydd rydyn ni’n eu rhannu’n cael eu herydu ac nid yw pobl ifanc yn rhan o brosesau gwneud penderfyniadau.
  • Er bod pobl ifanc yn poeni am faterion amgylcheddol, mae astudiaethau’n dangos nad ydynt yn teimlo’n rymus i arwain neu greu newid ac mae teimlad o anobaith yn gysylltiedig â phroblemau newid yn yr hinsawdd (1) 
  • Yn hanesyddol, mae tua 1 o bob 10 plentyn a pherson ifanc yn cael eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl (2) 
  • Dywedir bod lles meddyliol pobl ifanc ar y lefel isaf a gofnodwyd erioed (3) 
  • Y rhai 16 i 24 oed yw’r grŵp oedran mwyaf gweithredol ar gyfryngau cymdeithasol (91%). Gwnaed cyswllt rhwng defnydd o gyfryngau cymdeithasol ac iselder a phryder mewn pobl ifanc (4) 
  • Mae gordewdra’n broblem iechyd gynyddol gyffredin ymhlith plant a phobl ifanc (5) 
Cyflogaeth
Mae diweithdra’n uchel, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Mae ymchwil yn dangos diffyg cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu sgiliau a chael profiad i’w helpu i gyflogaeth neu addysg bellach.         
  • Mae cyfraddau diweithdra pobl ifanc 16 i 25 oed bron deirgwaith yn uwch o gymharu â gweddill poblogaeth y DU (6)
  • Nid oedd 80,000 o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ym mis Mai 2017 (7)

Yr Amgylchedd
Rydyn ni’n dyst i freguster cynyddol yn wyneb newid yn yr hinsawdd. Mae byd natur yn dirywio’n ddifrifol ledled y DU ond rydyn ni’n dibynnu ar amgylchedd iach am ein llesiant a’n ffyniant.
  • Ers 2000, mae’r byd wedi profi 14 allan o’r 15 o flynyddoedd poethaf ers dechrau cofnodi, oherwydd newid yn yr hinsawdd (Y Pwyllgor ar Newid yn yr Hinsawdd 2017)
  • Dirywiodd 53% o rywogaethau’r DU rhwng 2002 a 2013 (8) ac erbyn hyn mae’r DU yn un o’r gwledydd sydd wedi profi’r dirywiad mwyaf mewn byd natur yn y byd, gyda saith rhywogaeth yn wynebu diflaniad
  • Yn 2016, roedd y lefelau CO2 y rhai uchaf i’w cofnodi erioed ac roedd iâ Môr yr Artig ar ei isaf erioed yn ystod y gaeaf (Sefydliad Meteorolegol y Byd)  
  • Mae pryder wedi’i fynegi bod pobl ifanc yn treulio llai o amser ym myd natur o gymharu â chenedlaethau’r dyfodol, ac felly’n teimlo llai o gyswllt â’u hamgylchedd – canfu arolwg yn 2016 nad oedd 12% o blant wedi treulio unrhyw amser yn yr amgylchedd naturiol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (9) 
  • Mae llawer o bryder nad oes gan bobl ifanc a phlant wybodaeth am fyd natur yn awr  (10)
  • Dywedodd 62% o bobl ifanc yn y DU bod newid yn yr hinsawdd yn gwneud iddynt bryderu am y dyfodol mewn arolwg diweddar ar agweddau  (11)
Yr Economi  
Rhaid i’r DU symud at weithio’n effeithiol oddi mewn i gyfyngiadau amgylcheddol. Nid yw’r cyfleoedd addysg a chyflogaeth mewn economi ‘wyrddach’ ag adnoddau effeithlon ar gael yn hwylus i bobl ifanc.             
  • Mae gan fwy na thraean o bobl ifanc ddyled o £3,000 ar gyfartaledd, heb gynnwys benthyciadau myfyrwyr neu forgeisi (12)
  • Ers 2010, mae’r holl awdurdodau lleol bron wedi gorfod gwneud toriadau i wasanaethau ieuenctid oherwydd diffyg cyllid (13) 

Credits: 

(1) Hibbard, M. and Nguyen, A. (2013), (2) ONS on behalf of Department of Health & Scottish Executive (2004), (3) Prince’s trust (2017). (4) Royal Society for Public Health (RSPH) & Youth Health Movement (2017), (5) Public Health England (2017), (6) Office for National Statistics, (7) Office for National Statistics (2017a), (8) State of Nature report (2016), (9) National England (2016a), (10) National Trust (2008), (11) Broadbent et al. (2017), (12) National debtline and Money Advice Trust (2016), (13) Unison (2016)