Fe wnaethom ni ymgysylltu â’r Gwasanaethau Ymchwil Economaidd (ERS) a Collingwood Environmental Planning (CEP) i gynnal gwerthusiad o’r rhaglen. Nod y gwerthusiad oedd nodi, dadansoddi ac asesu effaith gyfunol y 31 o brosiectau; gwerth ychwanegol y rhaglen; a yw wedi cyflawni ei huchelgeisiau tymor hir a chasglu tystiolaeth o effeithiau, arfer da a gwersi a ddysgwyd.
Canfu’r gwerthusiad y canlynol:
  • Roedd 128,000 o bobl ifanc yn rhan o’r rhaglen
  • Teimlai 95% o’r cyfranogwyr bod eu hyder wedi gwella yn ystod y rhaglen
  • Dywedodd 86% bod cymryd rhan wedi gwella eu hiechyd meddwl
  • Fe wnaeth pobl ifanc wella mwy na 3,000 o fannau cymunedol a chreu mwy na 350 o ardaloedd â chyfoeth o fyd natur ar gyfer pobl a bywyd gwyllt
Mae Our Bright Future wedi dangos bod cynnwys pobl ifanc yn yr amgylchedd a chadwraeth wedi creu manteision i bobl ifanc. Canfuwyd yn gyson bod pobl ifanc yn fwy hyderus, medrus, yn hapusach ac yn gallu dod o hyd i waith drwy gymryd rhan yn y rhaglen. Y canlyniadau allweddol i bobl ifanc oedd:
  • Gwell iechyd meddwl a lles
  • Mwy o hunan-barch a hunanhyder
  • Sgiliau a gwybodaeth newydd
  • Mwy o gyflogadwyedd a dyheadau gyrfa gwell neu ddylanwadu ar ddewis o yrfa
Adroddiad gwerthuso terfynol a Chrynodeb Gweithredol
Mae’r adroddiad gwerthuso terfynol hwn yn ymdrin â’r rhaglen a sefydlwyd yn 2016 hyd at ei therfyn yn 2021. Mae’r adroddiad yn crynhoi, yn gwerthuso ac yn dathlu cyflawniadau Our Bright Future ac yn rhannu adlewyrchu’r rhai a gymerodd ran.
Os hoffech chi weld y Crynodeb Gweithredol yn unig, gallwch ddod o hyd iddo yma.
Eval report cover image
Papur dysgu 1 Sgiliau a chyflogadwyedd: dysgu o Our Bright Future
Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
  1. yr hyn oedd yn llwyddiannus o ran cefnogi pobl ifanc i ddatblygu sgiliau, ennill cymwysterau a gwella eu cyflogadwyedd
  2. cyflawniadau allweddol y prosiectau a’r rhaglen yn ymwneud â sgiliau a chyflogadwyedd.
Nod rhannu’r canfyddiadau hyn yw helpu prosiectau’r dyfodol i ddefnyddio’r amgylchedd naturiol i ddatblygu sgiliau pobl ifanc, gan wella eu cyfleoedd bywyd a’u gallu i wneud newidiadau i’r amgylchedd.
Papur dysgu 2 Cynnwys pobl ifanc yn yr amgylchedd: manteision i iechyd a lles y meddwl
Mae gwerthusiad Our Bright Future wedi darparu tystiolaeth bellach fod bod y tu allan a dysgu am y byd naturiol o fudd i iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Gellir dathlu’r cyflawniadau hyn, a’r gwersi a ddysgwyd i gynllunio gweithgareddau sy’n defnyddio’r amgylchedd i gefnogi lles pobl ifanc. Yn y pen draw, helpu pobl ifanc i greu newid amgylcheddol a byw bywydau hapusach ac iachach.
Papur dysgu 3 Dathliad dan arweiniad ieuenctid o effeithiau Our Bright Future ar yr amgylchedd ac mewn cymunedau
Mae’r papur dysgu hwn yn canolbwyntio ar straeon dau brosiect a sut oeddent o fudd i’r amgylchedd a chymunedau lleol. Mae adran gasgliadau’r papur hwn yn dod â chanfyddiadau’r ddwy astudiaeth achos at ei gilydd ac yn eu cyflwyno yng nghyd-destun yr hyn a ddysgwyd o’r rhaglen ehangach.
Papur dysgu 4 Cynnwys pobl ifanc yn yr amgylchedd: cyflawniadau, beth weithiodd, y gwersi a ddysgwyd
Mae treulio amser yn yr amgylchedd naturiol yn cynnig ystod o fanteision sydd wedi’u cofnodi’n dda. Mae’r papur dysgu hwn yn cyflwyno beth rydym wedi’i ddysgu am sut i ennyn diddordeb pobl ifanc yn llwyddiannus mewn amgylcheddau naturiol: beth sy’n gweithio, i bwy, a pham. Gobeithio y gall y gwersi fod yn sail i waith prosiect yn y dyfodol o ran recriwtio a chadw.
Papur dysgu 5 Adlewyrchu ar ddull o weithredu rhaglen Our Bright Future
Mae’r papur hwn yn nodi’r prif adlewyrchu am ddull o weithredu rhaglen Our Bright Future. Cymerwyd tystiolaeth o gyfweliadau gyda’r rhai oedd wedi ymwneud yn uniongyrchol â’r rhaglen, yn ogystal â defnyddio gwaith ysgrifennu arall am reoli’r rhaglen a gweithio mewn partneriaeth.
Papur dysgu 6 Pobl ifanc mewn rôl lywodraethu: cyflawniadau a dysgu o Our Bright Future
Mae’r papur hwn yn dangos sut mae dull gweithredu Our Bright Future a arweinir gan bobl ifanc wedi dylanwadu ar lywodraethu a / neu arweinyddiaeth ieuenctid ar draws sefydliadau prosiect a phartneriaid. Mae’n edrych ar y ffyrdd y gallai cymryd rhan yn Our Bright Future fod wedi dylanwadu ar brosesau sefydliadol ar gyfer cynnwys pobl ifanc mewn arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau. Gobeithio y bydd y papur hwn yn cynorthwyo eraill i ddatblygu swyddogaethau tebyg a arweinir gan ieuenctid a phrosesau neu strwythurau llywodraethu ieuenctid o fewn eu sefydliad.
Bwriad y tair astudiaeth isod, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, oedd bod yn sail i waith parhaus i gyflawni prosiectau Our Bright Future a phrosiectau eraill ar draws y sectorau ieuenctid a’r amgylchedd. Maent yn berthnasol i ymarferwyr, llunwyr polisïau a sefydliadau sy’n ceisio cynnwys pobl ifanc yn yr amgylchedd, mewn gweithgareddau ymarferol a theori.
Picture24
Astudiaeth Arweinyddiaeth Amgylcheddol
Casglodd yr astudiaeth hon ddata yn uniongyrchol gan gyfranogwyr ac edrychodd i ba raddau, ac ym mha ffyrdd, maent yn teimlo eu bod yn gallu gweithredu fel arweinwyr amgylcheddol ac yn cael eu cymell i wneud hynny.
Os hoffech chi weld y Crynodeb Gweithredol yn unig, gallwch ddod o hyd iddo yma.
Effeithiau ar gyfer Cyfranogwyr
Edrychodd yr astudiaeth hon ar sut mae Our Bright Future wedi effeithio’n uniongyrchol ar fywydau pobl ifanc. Ceisiodd yr ymchwil ddangos tystiolaeth o gryfder y cysylltiad rhwng cymryd rhan yn y rhaglen a chyflogadwyedd, cyflogaeth, cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, gwella lles a hunanhyder.
Os hoffech chi weld y Crynodeb Gweithredol yn unig, gallwch ddod o hyd iddo yma.
Picture25
Picture27
Astudiaeth sgiliau
Edrychodd yr astudiaeth hon ar ddatblygu sgiliau pobl ifanc ar draws prosiectau Our Bright Future. Mae’r astudiaeth yn rhoi gwybodaeth am ba sgiliau y mae pobl ifanc wedi’u dysgu yn ogystal â sut cyflawnwyd y sgiliau hyn.
Os hoffech chi weld y Crynodeb Gweithredol yn unig, gallwch ddod o hyd iddo yma.
Adroddiad canol tymor
Mae’r adroddiad hwn, a gyhoeddwyd yn 2019, yn cyflwyno canfyddiadau’r gwerthusiad annibynnol canol tymor o’r rhaglen. Roedd y gwerthusiad canol tymor yn cwmpasu tair blynedd gyntaf y rhaglen gan ganolbwyntio ar y cyfnod o sefydlu ym mis Mehefin 2016 tan fis Rhagfyr 2018.
Os hoffech chi weld y Crynodeb Gweithredol yn unig, gallwch ddod o hyd iddo yma.
Picture28
Picture29
Adroddiad sylfaen a chyd-destun
Roedd yr adroddiad hwn, a gyhoeddwyd yn 2017, yn cyflwyno’r cefndir ar gyfer adroddiadau gwerthuso dilynol. Mae’n amlinellu’r man cychwyn, o safbwynt y  rhaglen a’r prosiectau. Mae’r adroddiad hwn hefyd yn adlewyrchu ar y dysgu cynnar yn ymwneud â’r cyfnod sefydlu.
Adroddiadau gwerthuso prosiectau

Yn ogystal â gwerthuso’r rhaglen, mae pob un o’r 31 o brosiectau yn cynnal gwerthusiadau o’u gwaith ac yn darparu adroddiadau gwerthuso terfynol. Cliciwch yma am restr o’r adroddiadau sydd ar gael i’w lawrlwytho.