Sut gwnaeth y Tri Chais ddatblygu?            
Yn 2018, fe wnaethon ni ofyn y cwestiwn:
‘Pe baech chi’n gallu newid un peth i chi a’r amgylchedd, beth fyddai hwnnw?’
Fe wnaethon ni gasglu mwy na 700 o syniadau gan bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn ystod wyth digwyddiad ac ymchwil dan arweiniad pobl ifanc. Atebodd y bobl ifanc gan ddweud eu bod eisiau tri newid allweddol o amgylch y themâu canlynol:
  • Cais 1: treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdano
  • Cais 2: cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol
  • Cais 3: llunwyr polisïau, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a’r amgylchedd
Beth yw ‘cais’?
Mae cais yn newid rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd, newid cadarnhaol mewn cymdeithas fel rheol. Mae cais yn nodi’r uchelgais sydd gennym ac yn aml yn cynnwys esboniad byr am sut rydyn ni eisiau i bobl ein helpu i’w gyflawni.
Yn aml, caiff ceisiadau eu creu i ategu ymgyrch; cynllun hirdymor i godi ymwybyddiaeth o fater penodol a rhoi sylw iddo. Yn ein hachos ni, nod y Tri Chais oedd mynd i’r afael â materion oedd yn effeithio ar bobl ifanc a’r amgylchedd.
Beth wnaethon ni ei gyflawni?
Ymgyrch #LearnMoreOutdoors
Fe gynhaliodd Ulster Wildlife yr ymgyrch #LearnMoreOutdoors yn gynnar yn 2021. Cyflwynodd bedwar sesiwn hyfforddi ar gyfer eiriolwyr ieuenctid. Fe ffilmiodd y bobl ifanc glipiau ar gyfer cyfres o chwe fideo ar thema dysgu yn yr awyr agored. Rhannwyd y fideos yma yn eang ynghyd â negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol. Cliciwch drwodd i’r dudalen Cais 1 i’w gwylio nhw i gyd.
Fel rhan o’r ymgyrch, fe ysgrifennodd y bobl ifanc at y Gweinidog Addysg Mr. Peter Weir MLA a chyfarfod ag ef ym mis Mawrth 2021. O ganlyniad, fe gafodd pobl ifanc gyfle i rannu arweiniad ar ddysgu yn yr awyr agored drwy wefan yr Awdurdod Addysg.
“Fe wnaeth cyflwyniad myfyrwyr #Grassroots @UlsterWIldlife heddiw argraff fawr arnaf i. Rydyn ni’n ffodus ein bod ni’n byw mewn gwlad mor brydferth, mae angen i ni ofalu amdani a helpu ein plant i’w mwynhau a’i pharchu” – Peter Weir MLA, Twitter
Cronfa Her Adferiad Gwyrdd
Ym mis Mai 2020, fe gefnogodd Our Bright Future staff uwch yn yr Ymddiriedolaethau Natur i ymgysylltu â Defra. Darparwyd tystiolaeth gennym, gan fwydo i mewn i adolygiad o’r tirlun sgiliau a hyfforddiant. Ar ddiwedd mis Mehefin 2020, fe gyhoeddodd y Llywodraeth Gronfa Her Adferiad Gwyrdd gwerth £40 miliwn, gyda’r bwriad o gefnogi pobl i sicrhau a diogelu swyddi yn y sector amgylcheddol. Dyblwyd y Gronfa yn ddiweddarach i £80m.
“Rydw i’n gwybod bod Defra wedi edrych yn ofalus ar Our Bright Future i feddwl am sut i wneud y mwyaf o botensial swyddi drwy gyllid drwy’r Gronfa Her Swyddi Gwyrdd.” – Rhanddeiliad allanol
Llais ieuenctid
Ar ddiwedd 2021, roedd mwy na hanner sefydliadau partner Our Bright Future wedi sefydlu neu gynllunio i sefydlu prosesau neu strwythurau a arweinir gan bobl ifanc neu lywodraethu ieuenctid yn eu sefydliadau.
Mae prosiectau Our Bright Future wedi llwyddo i ddarparu llwybrau ffurfiol i bobl ifanc ymgysylltu â llywodraethu a gwneud penderfyniadau ar lefel prosiect a sefydliad.
“Rydw i’n meddwl bod ambell beth mân yn digwydd o gwmpas llais ieuenctid, ond roedd ei angen ar gyfer rhaglen / sefydliad i ddangos bod ymgorffori a hyrwyddo arweinyddiaeth ieuenctid yn bosibl ar raddfa, ac ar lefel sector. Felly mae hwnnw’n fwlch rydw i’n meddwl mae’r rhaglen wedi’i lenwi.” – Rhanddeiliad allanol
Cliciwch isod am fwy o wybodaeth, adnoddau a chyflawniadau ar gyfer pob un o’r Tri Chais.