Cafodd Aliyah ei recriwtio fel cynorthwy-ydd prosiect ar y prosiect Circle, sy’n canolbwyntio ar integreiddio ffoaduriaid.

“Fe ddysgais i sut i hwyluso a chyflwyno gweithdai i gyfranogwyr, cynnal allgymorth i hyrwyddo’r prosiect Circle a pharatoi cynlluniau a deunyddiau sesiwn. Fe wnes i ddatblygu fy sgiliau trefnu, gweinyddu a rheoli amser. Yn ogystal, fe gefais i brofiad yn gweithio gyda grŵp bregus – ffoaduriaid, a nawr rydw i’n deall yn well sut i gefnogi’r gymuned o ffoaduriaid. Rydw i’n fwy ymwybodol o’r heriau y mae ffoaduriaid yn eu hwynebu pan maen nhw’n dod gyntaf i Loegr, a bod angen i’r gefnogaeth sy’n cael ei chynnig fod yn benodol ac wedi’i theilwra i anghenion unigol y cyfranogwyr.”

“Mae fy siwrnai i gydag Our Bright Future a Groundwork wedi bod yn anhygoel, yn enwedig oherwydd fy nghydweithwyr a’r rheolwyr wnaeth fy nghefnogi i drwy’r lleoliad yma. Fe wnes i ddysgu llawer dim ond drwy siarad â fy nghydweithwyr am eu swyddi ac roedd gen i bob amser rywun i ddibynnu arno pan oedd gen i gwestiynau.”

Tua diwedd contract Aliyah daeth swydd wag ar gael yn y tîm cymunedol yn Groundwork a gwnaeth Aliyah gais llwyddiannus amdani.