Dechreuodd Aaron, sy’n 23 oed, ddilyn y cwrs cadw gwenyn bob dydd Sadwrn yn BEE You yng ngwanwyn 2018. Roedd yn frwdfrydig am gadw gwenyn ond yn bryderus na fyddai’n gallu dal ati gyda’i hobi ar ôl i’r cwrs orffen. I ddatrys hyn, penderfynodd wirfoddoli i helpu’r tiwtoriaid ac i ofalu am y cychod gwenyn. Oherwydd ei waith caled a’i ymroddiad, penderfynod prosiect BEE You dalu iddo am ddilyn cymhwyster addysgu ac felly nawr mae’n gweithio tuag at fod yn Diwtor Cadw Gwenyn! Bydd yn cwblhau ei Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant ac yn dod yn un o Diwtoriaid Cadw Gwenyn Tŷ Blackburne erbyn haf 2019.
Mwy o wybodaeth am BEE You yn Lerpwl ar gael yma.