Nid oedd Adnan, sy’n 17 oed, mewn addysg, gwaith na hyfforddiant pan ddaeth at gynllun Creu Cymunedau Cynaliadwy. Cafodd ei eni yn Iraq a dim ond am bedair blynedd oedd o wedi bod yn y DU, felly nid Saesneg oedd ei iaith gyntaf. Aeth ati i weithio’n galed gyda’r prosiect ac roedd gwên ar ei wyneb bob amser wrth iddo ddysgu defnyddio celfi ac ennill cymhwyster mewn adeiladu waliau clom. Drwy gymryd rhan yn y prosiect, mae ei hyder a’i Saesneg wedi gwella. Mae rhwystrau diwylliannol wedi cael eu goresgyn yn y grŵp. Ar ddiwedd eu hyfforddiant, penderfynodd y grwp ysgrifennu eu henwau i gyd mewn Arabeg ar blac pren ac fe ddangosodd Adnan iddyn nhw sut i wneud hyn.
Mwy o wybodaeth am gynllun Creu Cymunedau Cynaliadwy yn Abertawe ar gael yma.