Ajai National Trust Individual images with credits 600x600
Mae Ajai, sy’n 18 oed, yn astudio peirianneg awyrenegol yn y coleg. Yn ei amser sbâr mae’n gwirfoddoli ym Morden Hall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; gan wella’r parc a sicrhau budd i’r gymuned lle cafodd ei fagu. Mae’n cyfaddef nad oedd yn gwybod pwy oedd yn edrych ar ôl y parc, er ei fod wedi byw yma am flynyddoedd. Mae wir yn mwynhau gwneud rocedi potel sy’n cael eu defnyddio i ddewis safleoedd sampl ar hap ar gyfer arolygu dolydd o flodau gwyllt, oherwydd mae hyn yn cysylltu â’i waith yn y coleg! 
‘Y prif wahaniaeth ydi nad oeddwn i’n gwybod beth oedd posib i mi ei wneud i helpu’r amgylchedd cynt ond nawr rydw i’n gwybod yn union beth allaf i ei wneud.’
 Mwy o wybodaeth am y Green Academies Project yn Birmingham, Llundain, Manceinion Fwyaf, Gogledd Ddwyrain Lloegr a Wrecsam.