Alanna Belfast Hills Individual 600x600
Roedd Alanna, sy’n 24 oed, newydd roi genedigaeth i’w merch fach ac roedd yn gweithio mewn bar yn rhan amser. Ymunodd â Belfast Hills Bright Future a syrthiodd mewn cariad ar unwaith â phopeth yn ymwneud â’r awyr agored! Roedd hi wir yn gweld gwerth yn y sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu a’r hyder wnaeth hi ei feithrin. Hefyd roedd posib iddi gwblhau Dyfarniad John Muir, gan ennill cymwysterau wrth weithio yn yr awyr agored. Pan gwblhaodd hi’r prosiect, defnyddiodd ei phrofiad i gael swydd fel Warden Cynorthwyol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nawr mae’n cael mynd â phobl ifanc ar deithiau tywys a’u cyflwyno nhw i flodau gwyllt, glöynnod byw a chacwn, pethau y bydden nhw wedi cerdded heibio iddyn nhw heb sylwi arnyn nhw cyn hyn.
Defnyddiodd Alanna y sgiliau a’r cymhelliant a enillodd drwy gymryd rhan yn Bright Future Belfast Hills i sicrhau swyddi gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac elusen leol o’r enw Ymddiriedolaeth Colin Glen. Fodd bynnag, mae hi newydd gael swydd gyda phrosiect ‘Wild Youth’ sy’n brosiect gwaddol sy’n cael ei weithredu gan Ulster Wildlife a Phartneriaeth Belfast Hills yn dilyn ymlaen o’u gwaith drwy Our Bright Future. Bydd Alanna nawr yn helpu pobl ifanc leol eraill i syrthio mewn cariad â phopeth sy’n ymwneud â’r awyr agored!
‘Cyn i mi gymryd rhan yn y rhaglen, doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gyrfa mewn cadwraeth yn bosib, ac mai dim ond pobl gyda gradd prifysgol fyddai’n addas. Ond drwy’r rhaglen rydw i wedi datblygu’r sgiliau allweddol roeddwn i eu hangen i gael swydd wych yn y maes rydw i mor hoff ohono. Mae Our Bright Future wedi helpu i newid fy mywyd i’n ddramatig!’
 
Mwy o wybodaeth am brosiect Belfast Hills Bright Future ar gael yma.