Amy yn Student EatsAnna Maggs2019-09-10T11:34:04+01:00
Roedd Amy, sy’n 25 oed, yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Canolbarth Sir Gaerhirfryn pan ddechreuodd wirfoddoli yn SCRAN (Students Creating Resources Around Nutrition), sef prosiect Student Eats y brifysgol. Mae SCRAN yn fenter gymdeithasol sy’n cael ei harwain gan fyfyrwyr ac mae’n darparu gweithdai maeth ar y campws ac yn y gymuned. Ar ôl cwblhau rôl wirfoddol, cafodd Amy interniaeth gyda thâl yn SCRAN. Yn ystod yr interniaeth, bu’n cynllunio digwyddiadau, yn dysgu sgiliau gweinyddol ac yn trefnu allgymorth cymunedol. Y cyflawniad mae hi fwyaf balch ohono yw cynllunio a chyflwyno gweithdai ‘Coginio i Fwyta’ mewn ysgolion gyda Chyngor Dinas Preston. Roedd hyn yn golygu y gallai wneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn perygl o ddioddef o dlodi bwyd. Roedd Amy wrth ei bodd hefyd bod y brifysgol wedi mabwysiadu rysáit SCRAN ar gyfer bwydlen y ffreutur! Ar ôl cwblhau’r interniaeth, mae wedi cael swydd fel Cydlynydd Datblygiad Cymunedol erbyn hyn.