Amy at Growing Up Green
Roedd Amy, sy’n 18 oed, eisiau dilyn gyrfa mewn pensaernïaeth ond roedd yn cael anawsterau yn y Chweched Dosbarth. Ar ôl rhoi’r gorau iddi, treuliodd flwyddyn yn gwneud crefftau coed yn Hill Holt Wood. Pan welodd y staff ei bod yn astudio’n annibynnol ar gyfer ei Lefel A gartref, cafodd gynnig cyfle i wneud NVQ Lefel 3 mewn Dylunio hefyd. Fel rhan o’r cwrs hwn, dyluniodd ardd synhwyraidd ar gyfer ysgol arbennig leol. Gan fod prinder arian yn yr ysgol ar gyfer y prosiect, llwyddodd i wneud cais am gyllid gan brosiect arall o dan faner Our Bright Future, sef Spaces 4 Change gan UnLtd. Gan weithio gyda rhai o’r myfyrwyr o’r ysgol, creodd yr ardd i’r staff a’r myfyrwyr ei mwynhau.           
‘Mae’n anodd cyfleu pa mor ddiolchgar ydw i i Hill Holt Wood am agor y cymhwyster yma i mi, oherwydd cyn hynny roedd yn edrych fel pe byddai’n rhaid i mi aberthu fy mreuddwyd am nad oedd addysg brif ffrwd yn gweddu i mi.’
Mwy o wybodaeth am Growing Up Green yn Swydd Lincoln a chyllid Spaces 4 Change ledled y DU.