Daniel yn y Green Academies ProjectAnna Maggs2018-11-26T12:32:55+00:00
Cafodd Daniel, sy’n 23 oed, ei fagu ar stad cyngor. Roedd eisiau mynd i’r brifysgol ond rhoddodd y gorau i’w goleg wrth wneud ei lefel A. Doedd ganddo ddim syniad beth i’w wneud a chollodd ei hyder. Roedd wastad wedi mwynhau ymweld â gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac roedd yn meddwl y byddai gyrfa yn yr awyr agored yn gweddu iddo. Treuliodd ddwy flynedd gyda’r Green Academies Project gan astudio am NVQ mewn cadwraeth tir seiliedig. Erbyn hyn mae’n warden cymunedol gyda GAP ac yn arwain y grŵp Wardeniaid Trefol 11 i 16 oed sy’n cyfarfod ar ôl ysgol. Gan fod ganddo gefndir tebyg i’r bobl ifanc sy’n dod i’r grŵp, mae’n teimlo eu bod nhw’n gallu uniaethu ag o.
‘Mae gwirfoddoli ac astudio gyda GAP wedi bod yn gyfle i mi wneud rhywbeth rydw i wastad wedi bod eisiau ei wneud. Heb help a chefnogaeth pawb sy’n gysylltiedig â GAP, ‘fyddwn i ddim wedi cael cyfle i fynd o fod yn fyfyriwr i fod yn aelod o staff a symud ymlaen i wneud swydd rydw i wrth fy modd yn ei gwneud.’
Mwy o wybodaeth am y Green Academies Project yn Birmingham, Llundain, Manceinion Fwyaf, y Gogledd Ddwyrain a Wrecsam