Declan Real Story Individual page
Ymunodd Declan, sy’n 19 oed, â My World My Home fel myfyriwr y gyfraith yng Ngholeg Dinas Bryste. Mae eisiau bod yn gyfreithiwr ac felly gwelodd yn gyflym iawn sut gellir defnyddio’r gyfraith mewn ymgyrchu amgylcheddol. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn achos cyfreithiol Cyfeillion y Ddaear yn erbyn ehangu Maes Awyr Heathrow. Mae wedi dysgu mwy am yr angen am gyfyngu ar allyriadau carbon y DU. Defnyddiodd ei wybodaeth i lobïo AS ei goleg i ddatgan yn gyhoeddus ei gwrthwynebiad i ehangu Maes Awyr Bryste, a gwnaeth hynny o flaen torf enfawr yn Llundain!

 

Roeddwn i wastad wedi meddwl am brotestwyr amgylcheddol fel rhyw niwsans dibwys, ond nawr rydw i’n gweld pa mor bwysig ydi hyn.

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect My World My Home.