Eoghan yn Bright Future Bryniau BelffastAnna Maggs2018-11-26T14:35:10+00:00
Roedd Eoghan, myfyriwr 24 oed, yn mwynhau cerdded a dringo erioed ac felly roedd yn gyffrous am ymuno â Bright Future Bryniau Belffast. Roedd y prosiect yn cefnogi ei ymchwil ac ymchwiliodd i erydiad llwybrau troed ym Mryniau Belffast. Roedd yn teimlo mor angerddol am yr ardal fel ei fod wedi sefydlu Cymdeithas Bryniau Belffast yn ei brifysgol, gan ledaenu’r gair gyda myfyrwyr eraill. Cwblhaodd Ddyfarniad Archwiliwr John Muir a datblygwyd ei hyder a’i sgiliau rheoli prosiect. Erbyn hyn mae’n gweithio tuag at MSc mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy.
‘Roedd Partneriaeth Bryniau Belffast yn gyfle i fynd ati i warchod a gwella’r llefydd gwyllt yma ar garreg fy nrws a hefyd cyfarfod gwirfoddolwyr doniol, ymroddedig a gwybodus wnaeth y dyddiau gwirfoddoli’n bleser pur!’
Mwy o wybodaeth am Bright Future Bryniau Belffast ar gael yma.