Farhana Real Stories Groundwork London
Roedd Farhana, sy’n 23 oed, wedi graddio mewn cemeg ond yn ansicr sut i symud ymlaen gyda’i gyrfa. Yn y brifysgol roedd wedi mwynhau gwirfoddoli, felly roedd yn awyddus i fynd yn ôl allan i’r gymuned. Cafodd swydd cynorthwy-ydd addysgu dros dro, ond doedd hynny ddim yn teimlo’n iawn iddi hi. Daeth Groundwork ar ymweliad â’r ysgol a chynnal sesiwn wnaeth ei hysbrydoli i gymryd rhan. Yn fuan iawn, dechreuodd ar leoliad gyda Welcome to the Green Economy gan ddysgu llawer o sgiliau newydd. Roedd yn arwain sesiynau yn fuan iawn, yn rheoli arian mân, yn cynllunio digwyddiadau ac yn meithrin perthnasoedd gyda llawer o ysgolion. Ar ôl ei lleoliad, gwnaeth gais llwyddiannus am rôl Swyddog Prosiect Cymunedol. Erbyn hyn mae’n arwain sawl cynllun gwella ar gyfer stadau tai, yn rheoli staff ac yn cysylltu â thrigolion.
‘Mae wir wedi agor fy llygaid i i’r cyfleoedd sydd ar gael yn yr Economi Werdd a’r swyddi doeddwn i ddim yn gwybod amdanyn nhw.’
Mwy o wybodaeth am Welcome to the Green Economy yn Llundain ar gael yma.