Fernando Real Stories Homepage
Mae Fernando, sy’n 14 oed, yn un o’r myfyrwyr mwyaf brwdfrydig yng nghlwb garddio ei ysgol. Mae’n rhan o dîm o’r adran Anghenion Addysgol Arbennig sydd wedi bod yn datblygu gardd lysiau mewn gofod y tu ôl i’w hadeilad. Mae wedi adeiladu bin compost, creu gwrtaith naturiol a hau hadau.   

 

‘Rydw i’n dod yma bob wythnos am fy mod i’n hoffi garddio. Roedd gan fy nheulu i fferm fechan cyn i mi ddod i’r DU. Mae’r clwb yn hwyl. Rydw i’n hoffi ymarfer a gwneud ffrindiau newydd. Rydw i eisiau gweld mwy o anifeiliaid o amgylch ein gardd ni. Dydyn ni ddim yn gallu lladd byd natur oherwydd mae’n fregus iawn. Os gwnawn ni ladd planhigion, ’fydd dim bwyd i ni. Mae’n bwysig i mi nad ydi planhigion yn marw.’

 

Mwy o wybodaeth am y Prosiect Green Academies.