Mae Francis, 20 oed, yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd gymryd rhan gydag Ein Glannau Gwyllt a gweithio gyda phobl ifanc yn y prosiect i sicrhau cyllid gan Grow Wild i greu gardd o flodau gwyllt ar thema’r môr. Hefyd cynhaliodd Ein Glannau Gwyllt gyfres o ddigwyddiadau fel bod pobl yn gallu plannu blodau gwyllt gartref. Fel rhan o’i astudiaethau roedd rhaid iddo ddod o hyd i leoliad ar gyfer ennill profiad. Drwy ei gysylltiadau ag Ein Glannau Gwyllt roedd posib i Francis gael lleoliad profiad gwaith chwe wythnos yn swyddfa Grow Wild yng Ngerddi Kew! Roedd hyn yn cynnwys tasgau swyddfa a chymryd rhan mewn digwyddiadau amrywiol. Roedd wir yn mwynhau’r rhyddid creadigol i wneud potiau blodau’n siarad – gyda pheiriannau MP3 tu mewn – ar gyfer digwyddiadau!
Mwy o wybodaeth am Ein Glannau Gwyllt yng Ngogledd Cymru ar gael yma.