Helena yn From Farm to ForkAnna Maggs2019-10-22T11:54:24+01:00
Fe fu Helena, sy’n 22 oed, mewn diwrnod lloffa afalau gyda From Farm to Fork am ei bod yn meddwl ei fod yn ddifrifol bod bwyd yn cael ei wastraffu a phobl yn llwgu. Wedyn cymerodd ran yn y gweithdai gwasgu afalau a gwneud sudd. Roedd yn teimlo bod y profiadau yma wedi bod o help iddi ddeall achos ac effaith gwastraffu bwyd ac wedi dylanwadu ar ei dewis o yrfa. Fel cogydd talentog mae wedi gweithio mewn bwytai safonol iawn. Yn dilyn ei phrofiad gyda From Farm to Fork mae hi nawr yn teimlo y byddai’n meddwl mwy cyn penderfynu ble i weithio, yn seiliedig ar eu polisi gwastraff bwyd.
‘Casglu afalau a gwneud rhywbeth gartref i ffrindiau yw’r ffordd orau i gyfathrebu’r syniadau am wastraff bwyd. Rydych chi’n cynnwys pobl yn y mudiad heb ddim ond dweud rhywbeth wrthyn nhw.’
Mwy o wybodaeth am brosiectFrom Farm to Forkyn Llundain, Caint, Sussex, Gorllewin Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr ar gael yma.