Helena Feedback Individual  600x600
Fe fu Helena, sy’n 22 oed, mewn diwrnod lloffa afalau gyda From Farm to Fork am ei bod yn meddwl ei fod yn ddifrifol bod bwyd yn cael ei wastraffu a phobl yn llwgu. Wedyn cymerodd ran yn y gweithdai gwasgu afalau a gwneud sudd. Roedd yn teimlo bod y profiadau yma wedi bod o help iddi ddeall achos ac effaith gwastraffu bwyd ac wedi dylanwadu ar ei dewis o yrfa. Fel cogydd talentog mae wedi gweithio mewn bwytai safonol iawn. Yn dilyn ei phrofiad gyda From Farm to Fork mae hi nawr yn teimlo y byddai’n meddwl mwy cyn penderfynu ble i weithio, yn seiliedig ar eu polisi gwastraff bwyd.

 

‘Casglu afalau a gwneud rhywbeth gartref i ffrindiau yw’r ffordd orau i gyfathrebu’r syniadau am wastraff bwyd. Rydych chi’n cynnwys pobl yn y mudiad heb ddim ond dweud rhywbeth wrthyn nhw.’

 

 Mwy o wybodaeth am brosiect From Farm to Fork yn Llundain, Caint, Sussex, Gorllewin Lloegr a Gogledd Orllewin Lloegr ar gael yma.