Jack Real Story individual page
Mae Jack, sy’n 13 oed, wedi cael ei fabwysiadu ac mae’n cael anhawster gydag anhwylder ymlyniad, sy’n effeithio ar ei ymddygiad. Daeth i ymweld â Milestones yn wythnosol gyda’i grŵp ysgol am chwe wythnos. Ar ddechrau’r cwrs, nid oedd ganddo lawer o hyder ac roedd yn cael anhawster cymysgu â’r grŵp. Ond yn raddol dechreuodd ymlacio a dechrau dangos i aelodau newydd y grŵp sut i wneud pethau. Fe gafodd Ddyfarniad John Muir hyd yn oed! Nawr mae’n dechrau mynegi ei emosiynau yn adeiladol ac mae’n gallu gwrando a siarad ag aelodau eraill y grŵp.

 

‘Rydw i’n meddwl ’mod i eisiau gwneud gwaith fel chi, bod tu allan drwy’r amser, neu fod yn ffermwr!’

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect Milestones.