Jake Real Stories vinspired
Ymunodd Jake ag Eco-Talent am nad oedd yn siŵr beth oedd eisiau ei wneud gyda’i ddyfodol ac roedd yn teimlo llawer o bwysau gan ei deulu. Ymunodd ag Eco Talent er mwyn cyfarfod pobl newydd, dysgu sgiliau a helpu i ddod o hyd i gyfeiriad. Yn naturiol garismataidd, creadigol a ffraeth, cafodd Jake rôl arwain gydag un o’r prosiectau gweithredu cymdeithasol: Go Vegan. Datblygodd brosiect effeithiol iawn a chafodd lawer o gefnogaeth. Gyda’i hyder yn cynyddu, daeth yn aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future a chafodd gyfle i ddangos ei ddawn am siarad yn gyhoeddus drwy rannu ei siwrnai. Nawr ei fod wedi graddio o Eco Talent, mae wedi mynd i’r coleg i astudio ymhellach.
‘Mae llawer wedi newid i mi a fy ngallu. Ar hyn o bryd rydw i wedi cofrestru ar gyfer cwrs Lefel 3.’
 Mwy o wybodaeth am Eco-Talent yn Llundain ar gael yma.