Jess Real Stories Falkland Stewardship Trust
Ymunodd Jess sy’n 22 oed â phrosiect Our Bright Future Fife drwy gyfrwng yr Accessible Fife Academy, sy’n ceisio symud pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl, salwch tymor hir neu anabledd i brentisiaethau modern. Doedd Jess heb ystyried gweithio yn yr awyr agored o’r blaen, ond syrthiodd mewn cariad â’r moch bach, yr ardd a’r teimlad o les oedd hi’n ei gael o fod ar Stad Cambo. Llwyddodd Jess i gwblhau Prentisiaeth Fodern Lefel 2 mewn Garddwriaeth a gwelodd bod ganddi ddiddordeb mewn coedwigaeth. Dysgodd ddefnyddio llif gadwyn a llwyddodd yn ei hyfforddiant dringo coed ac achub awyr, gan ymuno â phrentisiaid Coed a Phren. Bellach mae ganddi rôl barhaol fel Prif Dyfwr Coed Gweithredol Arbenigol gyda Chyngor Fife.
Mwy o wybodaeth am Our Bright Future yn Fife yn yr Alban ar gael yma.