Kako Feedback Individual images with credits 600x600
Mae Kako, sy’n 22 oed, wrth ei bodd yn gwneud dewisiadau cynaliadwy, ond drwy ymuno â From Farm to Fork, mae wedi gweld o’r newydd faint o broblem yw gwastraff bwyd. Daeth cyfle iddi fynd i loffa ac roedd yn falch o weld y cratiau o ffrwythau wnaeth eu llenwi gyda’i dwylo ei hun. Ers dychwelyd i’w thref enedigol yn Awstralia, mae wedi sefydlu ei rhwydwaith lloffa ei hun, wedi’i ysbrydoli gan ei chyfnod yn From Farm to Fork!
‘Mae gofynion ein systemau bwyd presennol ni ar y blaned yn anghynaliadwy. Ond mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd weithredu’n uniongyrchol yn ei gylch. Rydyn ni i gyd yn bwyta. Mae gennym ni i gyd allu i wneud newidiadau sylweddol a chael effaith glir ar leihau gwastraff.’
 Mwy o wybodaeth am From Farm to Fork ledled Lloegr.