Keanu Groundwork London Individual 600x600
Doedd Keanu, sy’n 18 oed, ddim yn siŵr beth i’w wneud ar ôl gorffen yn yr ysgol. Roedd ei fam yn gwirfoddoli yn ‘The Loop’ ac awgrymodd ei fod yn mynd gyda hi. Wedyn fe wnaeth rheolwr y prosiect roi ei enw ar gyfer lleoliad gydag Our Bright Future. Doedd ganddo ddim profiad blaenorol o uwchgylchu na gwasanaethau cwsmeriaid ac nid oedd yn gwybod beth oedd yn gallu ei wneud. Drwy ei leoliad, dysgodd sut i drwsio dodrefn a gwneud silffoedd, rhoi sylw i gwsmeriaid a danfon nwyddau i gartrefi. Gwnaeth Keanu gymaint o argraff ar y rheolwr fel ei fod wedi cynnig gwaith tymor hir iddo ac erbyn hyn mae’n cefnogi’r hyfforddeion newydd. Mae ei wybodaeth amgylcheddol wedi datblygu ac mae wedi bod yn dysgu sut i atal tipio anghyfreithlon, lleihau nifer yr eitemau sy’n mynd i safleoedd claddu sbwriel, a lleihau effaith gwastraff cemegol. Ei nod yn y tymor hir nawr yw ymuno â’r heddlu.  

 

‘Fe roddodd hwb i fy ngwybodaeth i a ’mhrofiad yn y gweithle, gan roi hwb i fy hyder i hefyd ac arwain at waith llawn amser. Yn fy rôl i rydych chi’n dechrau gweld bod mwy o broblemau amgylcheddol nag oeddech chi wedi sylwi. Wedyn mae’n gwneud i chi feddwl am yr effaith a’r help y gallwch chi ei roi.’
 

 

Mwy o wybodaeth am brosiect Welcome to the Green Economy yn Llundain ar gael yma.