Loren2
Pan ymunodd Loren â Putting Down Roots for Young People (PDRYP), nid oedd mewn addysg na chyflogaeth ac roedd wedi cael ei rhyddhau’n ddiweddar o adran a ward acíwt iechyd meddwl. Er ei bod yn hoffi natur erioed, doedd hi erioed wedi gwneud llawer o arddio o’r blaen. Roedd Loren hefyd yn ei chael yn anodd canolbwyntio, yn aml yn teimlo’n isel heb fawr o hyder.
Eglurodd: “PDRYP oedd y bobl gyntaf i gredu ynof i yn iawn. Roedden nhw’n gweld pethau nad oedd pobl eraill yn eu gweld, y gallwn i gyflawni llawer yn fy mywyd er nad oedd gen i Lefel A nac unrhyw obaith o gael swydd yn fuan.
“Mae PDRYP yn anhygoel am feithrin doniau pobl ifanc. Rydyn ni’n cael cyfarfodydd tîm wythnosol ac mae Ben bob amser yn ein hannog ni i arwain. Fe sylweddolais i bod fy sgiliau o fod yn drefnus a rhesymegol yn siwtio’n berffaith ar gyfer cymryd cofnodion. Unwaith eto, rhoddodd Ben gyfleoedd i mi gymryd cofnodion mewn cyfarfodydd ar lefel uwch. Rhoddodd PDRYP reswm i mi adael y tŷ, rhoi rhesymau i mi godi allan o’r gwely a dal i fynd. Rydw i’n fythol ddiolchgar a dydw i ddim yn credu y byddwn i’n agos at lle’r ydw i heb y tîm yn PDRYP.”
Dechreuodd Loren ar brentisiaeth gradd nyrsio ym mis Hydref 2020. Mae hefyd yn rhan o Fwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ar banel asesu ar gyfer UK Youth, ac mae’n aelod o Fforwm Ieuenctid Our Bright Future. Mae’n cynnal sesiynau ar gyfer pobl ifanc eraill ar lais ieuenctid ac iechyd meddwl ac mae sawl erthygl wedi cael eu cyhoeddi ganddi ar gyfer BeatFreekz, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a chylchgrawn Plant a Phobl Ifanc, Now. Mae wedi rhwydweithio gyda phenaethiaid sefydliadau fel Mind, Plant mewn Angen, a Sports UK.
Mwy o wybodaeth am Putting Down Roots for Young People yma a darllen am eu profiad gwych yn dysgu mwy am ffotograffiaeth yng Ngerddi Kew yma.