Phoebe Real Stories Shropshire Wildlife Trust
Dechreuodd Phoebe sy’n 18 oed ymwneud â Growing Confidence yn ystod ei blwyddyn fwlch. Roedd wedi bod â diddordeb mewn bywyd gwyllt erioed ac roedd yn gyffrous iawn am y prosiect ar ôl clywed amdano i ddechrau drwy ei choleg. Mae’n cynnal digwyddiadau ar gyfer y prosiect ac yn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol. Ei hoff weithgaredd oedd denu pryfed cop gwëydd les allan o’u gwe gyda brwsh dannedd trydan! Mae wedi dysgu adnabod llawer o rywogaethau ac mae’n gallu ychwanegu llawer o sgiliau at ei CV yn awr, gan gynnwys Dyfarniad John Muir.
‘Mae Growing Confidence yn rhoi cyfle i mi archwilio’r amgylchedd lleol mewn ffordd fyddwn i ddim yn gallu gwneud ar ben fy hun.’
Mwy o wybodaeth am Growing Confidence yn Sir Amwythig ar gael yma.