Rebecca yn yr Environmental Leadership ProgrammeAnna Maggs2018-11-26T12:28:03+00:00
Roedd Rebecca, 24 oed, wedi bod yn teithio ac yn gwneud gwaith creadigol am dâl gwael i elusennau cynaliadwyedd bychain cyn dod at yr Environmental Leadership Programme. Roedd yn teimlo nad oedd ganddi sgiliau proffesiynol ac nad oedd ble roedd eisiau bod mewn bywyd. Ar ôl ymuno â’r rhaglen, cafodd gyfleoedd gwych i rwydweithio a gwella ei gwybodaeth am yr amgylchedd. Roedd yn mwynhau’r hyfforddiant ymgyrchu’n benodol, a rhoi cychwyn i’w syniadau ei hun. Roedd bod ar y cwrs gydag unigolion eraill o’r un feddylfryd yn hwb mawr iddi a nawr mae’n cyfrif llawer o’i chydweithwyr ar y cwrs fel rhai o’i ffrindiau gorau. Mae’n ysgrifennu cynllun busnes ar hyn o bryd ar gyfer ei menter amgylcheddol ac yn gwneud cais am swyddi tymor hir.